About Lesson
Cyfraddau llog a chostau benthyca
Llog yw’r arian y byddwch yn ei ennill pan fyddwch yn cynilo eich arian mewn cyfrif cynilo, neu’r arian y bydd yn rhaid i chi ei dalu er mwyn benthyca arian.
Pan fo llogau yn uchel, bydd benthyciadau yn ddrud ond byddwch yn ennill mwy ar eich cynilon. Ar y llaw arall, os bydd cyfraddau llog yn isel, byddwch yn ennill llai ar eich cynilon ond hefyd yn talu llai ar fenthyciadau.
Munud i feddwl
Dychmygwch eich bod yn ystyried benthyca £500 o bunnoedd am flwyddyn.
Llenwch y tabl i ddangos faint fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl ar y gwahanol gyfraddau llog.
Gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd llog canlynol os oes angen:
Ydych chi’n llai tebygol o gymryd y benthyciad wrth i’r lefel llog godi?