About Lesson
Cyfrifon cyfredol
Cyfrifon cyfredol yw’r cyfrifon sydd gan bobl er mwyn derbyn a gwario arian o ddydd i ddydd.
Mae gwahanol gyfrifon ar gyfer gwahanol gwsmeriaid.
Safonol
Dyma’r cyfrif arferol. Ceir llyfr siec ar gais a cherdyn debyd gyda’r rhan fwyaf o’r cyfrifon hyn. Gellir trefnu gwasanaeth gorddrafft hefyd.
Cyfrif wedi'i becynnu/premiwm
Mae cyfrifon premiwm yn cynnwys mwy o wasanaethau ac maent yn codi ffi. Rhai o’r gwasanaethau ychwanegol hyn yw yswiriant teithio ac yswiriant car wedi torri i lawr.
Dilynwch y ddolen i weld rhai enghreifftiau o gyfrifon premiwm:
Sylfaenol
Ceir cyfrifon syml, sylfaenol ar gyfer pobl fyddai’n cael anhawster cael cyfrif safonol.
Myfyriwr
Bancio arbennig ar gyfer myfyrwyr prifysgol a choleg.
Gallwch ddarllen mwy am gyfrifon cyfredol yma:
Munud i feddwl
Edrychwch ar ganllaw cyfrifon myfyrwyr ‘Save the Student’:
Pa gyfrif byddech chi’n ei ddewis a pham?
Ydych chi wedi dewis yr un cyfrif neu gyfrifon gwahanol?