Diwylliant, gan gynnwys crefydd a chredoau moesegol
Mae diwylliant pobl yn gallu cael effaith fawr ar eu hagweddau at arian.
Er enghraifft, mae ‘Tanda’ yn gysyniad o gynilo ar y cyd sy’n hanu o America Ladin a’r Caribî. Yn ei hanfod mae pawb yn talu arian i ‘bot’ ac yn eu tro bydd pawb wedyn yn derbyn y ‘pot cyfan’. Ceir syniadau tebyg yn Tsiena a De Affrica.
Mae Almaenwyr yn enwog am eu cariad at arian parod – maent yn gwneud 60% o’u taliadau mewn arian parod, sy’n llawer uwch na gweddill Ewrop. Fel dywed yr Almaenwyr ‘Geld stinkt nicht’ – nid yw arian yn drewi!
Gall crefydd hefyd siapio agweddau pobl at arian; enghraifft allweddol yw cyllid Islamaidd. Mae cyllid Islamaidd yn seiliedig ar y gred na ddylai arian fod â gwerth ynddo’i hun – mai dim ond mecanwaith i gyfnewid cynhyrchion a gwasanaethau yw arian. Yn gysylltiedig â hyn mae’r syniad na ddylech wneud arian o arian – sy’n golygu y dylid osgoi talu neu dderbyn llog lle bo hynny’n bosibl.