Modiwl 1: Deall pwysigrwydd rheoli cyllid personol
About Lesson

Munud i feddwl

Mae’r tabl canlynol yn dangos agweddau gwahanol genedlaethau at arian.

Edrychwch ar y tabl isod ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn.

Agweddau tuag at Gyllid dros y Cenedlaethau: Gen Z, Millennials, Gen X a Baby Boomers

Datganiadau y cytunwyd â nhw ynglŷn â Chyllid

Gen Z

(2000 +)

Millennial

(1982 – 1999)

Gen X

(1965 – 1981)

Baby Boomer

(1944 – 1964)

Mae banciau yn ceisio ein twyllo i gael gafael ar ein harian. 39% 41% 36% 27%
Allwch chi ddim ymddiried mewn arian crypto. 55% 53% 58% 70%
Rwy’n hyderus pan ddaw hi’n fater o greu cyllideb a chadw ati. 67% 69% 70% 79%
Rwy’n fwy gofalus o fy musnes ariannol nag yr oeddwn. 70% 74% 75% 73%
Does dim ots gen i gymryd risg gyda fy arian. 35% 35% 22% 11%
Rwy’n teimlo’n hyderus y gallwn ymdopi ag argyfwng ariannol (e.e. mynd yn fethdalwr, colli fy nhŷ ac ati). 32% 37% 36% 36%
Rwy’n dilyn y newyddion economaidd pan fyddaf yn gwneud penderfyniadau’n ymwneud â phrynu. 39% 38% 30% 28%
Rwy’n gwneud ymdrech i gefnogi busnesau lleol. 58% 63% 68% 74%
Rwy’n tueddu i brynu pethau yn fy nghyfer. 50% 49% 39% 28%
Rwy’n credu bod ychydig bach o ddyled personol yn rhywbeth arferol. 42% 57% 61% 46%

Mae Madhav yn 22 mlwydd oed, mae Aoife yn 46 ac mae Ifan yn 83.

Yn ôl eu hoedran, pwy sydd fwyaf tebygol o:

1. Fod yn ofalus gyda’i arian?

  1. Madhav
  2. Aoife
  3. Ifan

2. Gwneud pryniannau byrbwyll (gwario arian yn ddifeddwl)?

  1. Madhav
  2. Aoife
  3. Ifan

3. Cymryd risgiau gyda’i arian?

  1. Madhav
  2. Aoife
  3. Ifan