Modiwl 1: Deall pwysigrwydd rheoli cyllid personol
About Lesson

Rôl arian

 

Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar rôl arian, a sut mae unigolion a busnesau yn defnyddio arian.

Mae sut mae pobl yn defnyddio, yn gwario neu yn cynilo arian yn dibynnu ar eu hagwedd at risg. Mae pobl sy’n barod i gymryd risg yn debygol o wario tra bod pobl sydd ag agwedd llai mentrus yn debygol o gynilo.

Beth yw eich agwedd chi at arian? Rhowch gynnig ar y cwis isod.

Trafodwch gyda ffrind.

Ydych chi’n debyg neu’n wahanol?

Pa un ohonoch chi sy’n ‘well’ gydag arian?

Mae eich cyfnod mewn bywyd hefyd yn effeithio ar eich agwedd at arian:  

Cyfnod

Anghenion ariannol posibl

Goblygiadau posibl

Plentyndod

(0-12)

Dim angen arian a dim biliau i’w talu. Yn ddibynnol ar rieni/perthnasau er mwyn derbyn arian –ychydig o arian poced efallai.

Llencyndod

(13-18)

Angen arian i fynd allan i gymdeithasu neu deithio. Gadael cartref neu gael swydd. Derbyn arian poced. Cael swydd rhan amser.

Oedolyn ifanc

(18-25)

Mynd i’r brifysgol neu ddechrau swydd newydd neu’n ddi-waith. Gweithio mewn swydd sylfaenol neu brentisiaeth. Angen arian yn y brifysgol. Derbyn benthyciad myfyrwyr. Angen talu rhent os yn byw oddi cartref/cynilo er mwyn prynu tŷ.

Canol oed

(25-60)

Mewn swydd fwy sefydlog/uwch. Yn debygol o fod wedi gadael cartref. Cyd-fyw neu briodi a chael plant. Prynu nwyddau mwy e.e. car, gwyliau teulu, nwyddau tŷ. Ad-dalu morgais/talu rhent. Gwario ar ofal plant/nwyddau plant/addysg. Gwario ar wyliau, bwyta allan, adloniant. Talu tuag at bensiwn.

Henoed

65+

Ymddeol. Gweithio yn rhan amser. Gorfod symud i gartref henoed/llety cysgodol. Derbyn pensiwn preifat a/neu’r wladwriaeth. Wedi ad-dalu morgais felly llai o wariant misol. Angen talu am ofal cymdeithasol.

Mae digwyddiadau yn gallu siapio agwedd pobl tuag at arian hefyd e.e. cael babi newydd, colli swydd, salwch hirdymor ac yn y blaen.