Modiwl 1: Deall pwysigrwydd rheoli cyllid personol
About Lesson

Swyddogaeth arian 

 

Mae arian yn cael ei ddefnyddio fel dull cyfnewid – hynny yw, mae’n gallu cael ei gyfnewid am nwyddau neu wasanaethau. Mae’n storfa gwerth – does dim rhaid ei wario ar unwaith – mae’n cadw ei werth (neu y rhan fwyaf ohono o leiaf) tan eich bod yn barod i’w wario. Mae arian yn cael ei gyfrif yn dendr cyfreithiol felly mae’n gallu cael ei ddefnyddio i dalu trethi ac mewn contractau ac mae hefyd yn uned gyfrifo – mae’n rhoi gwerth y farchnad i nwyddau a gwasanaethau.