About Lesson
Pwrpas ymchwilio i wybodaeth i adnabod anghenion a dyheadau cwsmeriaid
Mae ymchwil y farchnad yn gallu cael ei ddefnyddio at nifer o bwrpasau gwahanol. Bydd busnesau newydd am wneud ymchwil i’r farchnad cyn lansio eu nwydd neu wasanaeth er mwyn ceisio sicrhau eu llwyddiant. Fe fydd busnesau sydd wedi sefydlu am ymchwilio i’r farchnad cyn lansio nwydd neu wasanaeth newydd ac mae’n synhwyrol gwneud ymchwil y farchnad yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn gallu rhagweld unrhyw newidiadau yn y farchnad (er gwell neu er gwaeth!).
Y tri phrif reswm dros wneud ymchwil y farchnad yw:
Adnabod y farchnad darged
Adnabod maint, strwythur a thueddiadau yn y farchnad
Adnabod cystadleuwyr
Byddwn yn edrych ar y rhain yn eu tro.