Accessibility Statement
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Astudiaethau Busnes.
Atebol sy’n rhedeg y wefan hon. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio’r porwr neu osodiadau eich dyfais
- nesáu hyd at 400% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch ag owain@atebol.com.
Os oes angen yr wybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
E-bost: owain@atebol.com
Ffôn: 01970 832 172
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 2 ddiwrnod.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n B/byddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
Sut mae cysylltu â ni https://atebol.com/contact-us/.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Atebol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â [safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 neu safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2].
Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Mawrth 2025. Adolygwyd ddiwethaf ar 15 Ionawr 2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 15 Mawrth 2025. Cynhaliwyd y prawf gan Atebol.