Polisi Cwcis

Y polisi cwcis safonol ar gyfer y wefan Astudiaethau Busnes yw caniatáu pob cwci. Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i helpu darparu nodweddion penodol ar gyfer y defnyddiwr. Mae hyn yn helpu sicrhau bod y defnyddiwr yn cael y profiad gorau posibl.

Os hoffai defnyddwyr barhau i gael y profiad gorau posibl ar y wefan, nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, os hoffent atal neu gyfyngu ar y defnydd o gwcis, gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio’r gosodiadau yn y porwr gwe.

Beth yw Cwcis?

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu cadw ar yriant caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan ac yn mynd trwy’r tudalennau gwe. Fe’u defnyddir yn gyffredin ac yn eang i wneud i wefannau weithio’n iawn ac yn fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwahanol fathau o wybodaeth i berchnogion y wefan.

Fe’u lluniwyd i ddal swm bach o ddata sy’n benodol i gleient a gwefan benodol, a gellir eu cyrchu naill ai gan y gweinydd gwe neu gyfrifiadur y cleient.

Dyma rai o’r ffyrdd y defnyddir cwcis:

  • cadw’r tudalennau y mae’r defnyddiwr wedi edrych arnynt yn ddiweddar
  • nodi unrhyw broblemau efallai y daethpwyd ar eu traws wrth ymweld â’r wefan, er mwyn gallu datrys unrhyw broblemau.

Mathau o gwcis

Gellir grwpio’r cwcis yn bedwar categori:

Cwcis hollol angenrheidiol

Mae’r rhain yn hanfodol i alluogi defnyddwyr i symud o gwmpas y wefan a defnyddio’i nodweddion. Heb y cwcis hyn ni allwn ddarparu gwasanaethau megis taliadau ar-lein

Cwcis perfformiad

Trwy ddefnyddio’r wefan, mae’r defnyddiwr yn cytuno y gall y mathau hyn o gwcis gael eu gosod ar y ddyfais/dyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gysylltu â’r wefan. Mae’r rhain yn casglu gwybodaeth am y modd mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau mae ymwelwyr yn edrych arnynt amlaf, ac a oes gwall wedi digwydd ar dudalen. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n ei gwneud yn bosibl adnabod ymwelydd. Mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei chadw’n ddienw ac fe’i defnyddir yn unig i wella’r ffordd mae gwefan yn gweithio.

Cwcis Targedu

Defnyddir cwcis targedu i ddarparu hysbysebion sy’n berthnasol i’r defnyddiwr a’i ddiddordebau. Maent yn cael eu gosod fel arfer gan rwydweithiau hysbysebu (gyda chaniatâd gweithredwr y wefan). Maent yn cofio’r defnyddwyr hynny sydd wedi ymweld â gwefan a rhennir y wybodaeth hon gyda sefydliadau eraill megis hysbysebwyr. Yn eithaf aml bydd cwcis targedu yn gysylltiedig â swyddogaeth safle a ddarperir gan y sefydliad arall. Nid yw’r wefan yn defnyddio cwcis targedu.