Croeso i Astudiaethau Busnes

Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rhannu’n ddwy rhan:

Rhan 1) Modiwlau Archwilio Busnes

Rhan 2) Modiwlau Marchnata

Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau.

Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras.

Modiwlau Archwilio Busnes

Modiwl 1

Bwrw golwg ar nodweddion busnes.

Modiwl 2

Archwilio sut y caiff busnesau eu trefnu o ran eu trefnidiaeth fewnol.

Modiwl 3

Yr amgylchedd y mae busnes yn gweithredu ynddo.

Modiwl 4

Edrych ar strwythur marchnadoedd busnes gwahanol. 

Modiwl 5

Edrych ar rôl a chyfraniad arloesi a menter.

Modiwlau Marchnata

Modiwl 1

Cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o farchnata.

Modiwl 2

Defnyddio gwybodaeth i ddatblygu’r rhesymeg ar gyfer ymgyrch farchnata.

Modiwl 3

Cynllunio a datblygu ymgyrch farchnata.