Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Materion ansawdd
0/1
Modiwl 4: Gwneud penderfyniadau busnes
About Lesson

Deddfwriaeth

 

Mae deddfwriaeth yn chwarae rôl enfawr mewn busnesau ac yn ymwneud â nifer o agweddau o’u gweithgareddau.

Mae rhai deddfau a rheoliadau yn neilltuol ar gyfer diwydiannau arbennig, e.e. bydd tai bwyta neu gaffis yn gorfod cydymffurfio â deddfau trin bwyd tra bod salonau gwallt yn gorfod sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfau iechyd a diogelwch ac yn y blaen. Felly mae’n bwysig bod busnesau yn ymwybodol o’r deddfau sy’n effeithio arnyn nhw yn benodol a deddfwriaeth gyffredinol sy’n effeithio ar bob busnes, e.e. Deddf Cydraddoldeb 2010.

Cliciwch ar y gwahanol feysydd deddfwriaeth i weld mwy o fanylion:

Deddfwriaeth Bwyd
I fusnesau yn y diwydiant bwyd mae’n bwysig iawn cydymffurfio â deddfau hylendid, diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch ac ati.

Cliciwch yma i weld cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd ynglŷn â’r pethau i’w hystyried wrth ddechrau busnes bwyd:

Osgoi troseddau bwyd

Munud i feddwl

Cliciwch ar y ddolen i fynd at dudalen sgôr hylendid bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

Edrychwch am sgôr eich hoff dŷ bwyta. Ydych chi’n hapus gyda’r sgôr?

Mae’n rhaid i fusnesau yng Nghymru ddangos eu sgôr hylendid yn amlwg yn eu lleoliad. Pam mae cael sgôr hylendid uchel yn bwysig? (Ystyriwch safbwynt y busnes a safbwynt y cwsmer.)

Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Pwrpas iechyd a diogelwch yn y gwaith yw atal damweiniau a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu gweithio’n ddiogel.

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yw’r brif ddeddf iechyd a diogelwch ac mae’n berthnasol i bob lleoliad gwaith yn y DU o’r lleiaf i’r mwyaf.

Mae’n rhaid i bob lle gwaith gydymffurfio â’r Ddeddf ond hefyd mae’n rhaid iddynt arddangos poster iechyd a diogelwch yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn lle amlwg.

Munud i feddwl

Dilynwch y ddolen at y poster iechyd a diogelwch:

Maen rhaid i gyflogwyr arddangos y poster mewn lle ble gall gweithwyr ei ddarllen. Pam? 

Gallwch ddarllen mwy am ddyletswyddau iechyd a diogelwch yn y gwaith fan hyn:

Munud i feddwl

Gwyliwch y fideo isod.

Pa effaith gafodd damwain Beca Glyn arni hi ac ar y busnes?

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC)

Mae Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn ymwneud â’r wybodaeth y mae busnesau yn gallu ei chadw am bobl. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gwsmeriaid yn ogystal â gweithwyr.

 

Gallwch ddysgu mwy am y rheoliadau fan hyn:

Y rheoliad diogelu data cyffredinol

Hawliau Cyflogaeth


Mae hawliau cyflogaeth ar gael i ddiogelu pobl mewn gwaith. Mae’n hanfodol bod unrhyw fusnes sy’n cyflogi pobl yn deall eu cyfrifoldebau tuag at y bobl y maent yn eu cyflogi.

Mae nifer o’r hawliau yn deillio o hawliau dynol. Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy:

 

Cliciwch ar y ddolen i weld rhai o’r pethau y bydd angen i fusnesau eu hystyried wrth gyflogi pobl am y tro cyntaf:

Cyflogi eich gweithiwr cyntaf materion cyfreithiol

Darllenwch grynodeb o hawliau pobl yn y gwaith fan hyn:

Cyflogau hawliau ac oriau gwaith

Hawliau Defnyddwyr

Mae hawliau defnyddwyr yn ymwneud â hawliau wrth brynu nwyddau neu wasanaethau ac yn ymwneud ag ansawdd nwydd, rheoliadau prynu ar-lein ac yn y blaen.

 

Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod mwy:

Hawliau defnyddwyr – yr hyn sydd angen i chi wybod