About Lesson
Creu cynllun wrth gefn
Mae cynllun wrth gefn yn hollbwysig er mwyn ymateb i sefyllfaoedd sy’n codi.
Mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu i ymateb i argyfyngau. Er enghraifft, mae gan ffermydd gynlluniau wrth gefn rhag ofn eu bod nhw’n datblygu achosion a heintiau ar eu ffermydd.
Dylai busnes geisio gwneud asesiad risg yn nodi unrhyw argyfyngau a allai godi, e.e. argyfyngau naturiol, economaidd neu gymdeithasol a rhoi cynlluniau mewn lle i ymateb i’r argyfyngau hynny.
Gwnaeth pandemig Covid-19 bwysleisio’r angen am gynlluniau wrth gefn ar gyfer nifer o fusnesau bach a mawr.