Cynnwys y Cwrs
Uned 4: Busnes Rhyngwladol
Amcanion y Modiwl
0/1
Modiwl 4: Ymchwilio i’r ffactorau diwylliannol sy’n dylanwadu ar fusnesau rhyngwladol
About Lesson

Effaith ffactorau diwylliannol ar fusnesau rhyngwladol

Trafodaethau contract
Mae arferion lleol yn bwysig iawn mewn trafodaethau. Fel y soniwyd gynt, mae’n bwysig bod yn brydlon i gyfarfodydd yn Tsieina ond yn India nid yw hyn mor bwysig. Yn Tsieina mae perthnasoedd yn bwysig iawn hefyd. Mae Tsieineaid yn galw hyn yn ‘Guanxi’ sef bod ag ymddiriedaeth bersonol a pherthynas gref â rhywun.
 
Yn Japan mae rhoi anrhegion yn arferol ac fe ddylech sicrhau eich bod yn rhoi anrhegion gyda dwy law ond mewn gwledydd eraill, gallai hyn gael ei weld fel ymgais i lwgrwobrwyo.
Cyfansoddiad gweithlu
Bydd cyfansoddiad gwlad yn cael effaith ar gyfansoddiad gweithlu hefyd ac yn ei dro bydd diwylliant gweithlu yn cael effaith ar ddiwylliant busnes. Mae angen i fusnes fod yn ymwybodol o sut mae’r gweithlu yn debygol o weithio, ymateb i reolaeth, ei agwedd tuag at gymryd diwrnodau i ffwrdd o’r gwaith, salwch ac yn y blaen.
Dull rheoli a’i effaith ar y gweithlu a diwylliant sefydliadol

Bydd diwylliant gwlad yn cael effaith ar ddull rheoli sefydliadau yn y wlad honno. Yn ei lyfr When Cultures Collide mae Richard Lewis yn nodi bod diwylliannau sy’n blaenoriaethu effeithlonrwydd a chynhyrchiant, e.e. yr Unol Daleithiau a’r Almaen, yn ffafrio arddull sy’n canolbwyntio ar dasgau, lle mae gwledydd megis Japan a Tsieina yn canolbwyntio mwy ar feithrin perthynas. Ceir hefyd arddull sy’n canolbwyntio ar amser, sy’n gyffredin mewn diwylliannau sy’n rhoi pwyslais ar brydlondeb a chynllunio, e.e. y Swistir a’r Iseldiroedd.

Strategaethau marchnata, enwau brand a hysbysebu

Wrth i fusnesau ddechrau gweithredu dros y byd, mae’n dod yn fwyfwy pwysig bod eu strategaethau marchnata a’u brand yn gweithio mewn mwy nag un ardal.

Ambell waith nid yw hyn yn bosib, e.e. mae Burger King yn gweithredu ar draws y byd gydag un brand. Ond pan roedden nhw’n cynllunio i ddechrau masnachu yn Awstralia, fe wnaethon nhw ddarganfod bod cwmni o’r enw Burger King yn bodoli yno yn barod. Felly, fe newidiwyd yr enw i Hungry Jacks yn Awstralia. Mae nifer o enghreifftiau eraill o newid brandio ar gyfer gwahanol wledydd.

Yn 2009, cyhoeddodd HSBC y byddai’r banc yn ail-frandio $ 10 miliwn ar ôl i’r ymgyrch farchnata fethu. Y rheswm am hyn oedd bod y slogan ‘Assume Nothing’ wedi cael ei gyfieithu mewn sawl iaith i’r hyn sy’n cyfateb i ‘Do Nothing’ – y gwrthwyneb yn union i neges y banc.

Munud i feddwl

 

Ydych chi’n gallu paru’r brandiau hyn gyda’u henwau brand amgen ar draws y byd?

Ymchwiliwch i’r rhesymau pam mae’r enwau yn wahanol mewn gwahanol wledydd.