Ffactorau diwylliannol
Mae ffactorau diwylliannol gwlad yn ymwneud â chredoau, normau ac agweddau sy’n perthyn i’r boblogaeth.
Iaith
Cyfansoddiad ethnig
Fel arfer bydd gan wledydd gymysgedd o grwpiau ethnig.
Mae Cyfrifiad y DU yn cofnodi cefndir ethnig mewn 19 categori mewn 5 prif adran:
- Gwyn
- Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig
- Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
- Grŵp Ethnig Arall
Munud i feddwl
Defnyddiwch yr wybodaeth isod i ateb y cwestiynau sy’n dilyn

Pa grŵp ethnig sydd â’r nifer fwyaf o bobl
- sydd ddim mewn gwaith?
- sy’n fyfyrwyr?
- mewn swyddi rheoli?
Ydych chi’n gallu meddwl am resymau dros y gwahaniaethau hyn?
Strwythurau cymdeithasol
Fe all fod yn bwysig i fusnesau ddeall strwythurau cymdeithasol gwlad er mwyn penderfynu sut i dargedu eu cynhyrchion.
Crefydd
Mae tua 85% o boblogaeth y byd yn uniaethu â chrefydd. Y grefydd fwyaf yn y byd yw Cristnogaeth, wedyn Islam, Hindŵaeth a Bwdhaeth. Mae credoau sy’n mynd law yn llaw â chrefydd yn gallu cael effaith ar fusnesau, e.e. mae Mwslimiaid yn credu nad oes gan arian werth ynddo’i hun ac felly mae eu systemau bancio yn wahanol oherwydd hynny.
Munud i feddwl
Dilynwch y ddolen i safle we McDonald’s India:
Mae mwyafrif poblogaeth India yn Hindwiaid.
Pa effaith mae hyn wedi ei gael ar fwydlen McDonald’s yn y wlad?
Gwerthoedd
Mewn rhai gwledydd mae llwgrwobrwyo a llygru yn rhan fawr o sut mae busnes yn digwydd. Mae llwgrwobr yn daliad er mwyn perswadio rhywun i wneud rhywbeth ac er ei fod yn arferol mewn nifer o wledydd, nid yw’n dderbyniol yn gyffredinol.
Mae Transparency International yn brwydro yn erbyn llygredd mewn busnes ac yn cyhoeddi ‘transparency index’ sy’n dangos pa wledydd sy’n cael eu cyfrif yn fwy agored i lwgrwobrwyaeth a llygredd.
Agweddau at fusnes
Agweddau at waith
Munud i feddwl
Gwyliwch y fideo isod.
Sut mae cyfarfodydd yn Japan yn wahanol i gyfarfodydd yn UDA?