About Lesson
Nodweddion sefydliadau ariannol
Mae nifer o wahanol sefydliadau. Dyma drosolwg byr o rai ohonynt:
Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr yn ‘cynhyrchu arian papur (arian parod) a goruchwylio llawer o’r systemau talu eraill rydych chi’n eu defnyddio (e.e. gyda cherdyn debyd neu gredyd). Maent hefyd yn gweithio i gadw costau byw yn sefydlog fel bod eich arian yn cadw ei bŵer prynu. Un ffordd o wneud hyn yw drwy newid y gyfradd llog sylfaenol yn y DU’.
Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy am Fanc Lloegr:
Banciau
Mae banciau yn sefydliadau sy’n delio mewn arian ac yn darparu gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag arian. Mae banciau yn cynnig gwasanaethau bancio, cynilo a benthyca.
Cymdeithasau adeiladu
Mae cymdeithasau adeiladu yn debyg i fanciau, gan eu bod yn cynnig gwasanaethau bancio a chynilo, ond yr aelodau sy’n berchen arnynt.
Undebau credyd
Dilynwch y ddolen isod er mwyn ddysgu beth yw undebau credyd:
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Dilynwch y ddolen i ddarganfod beth yw Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol:
Cwmnïau yswiriant
Mae cwmnïau yswiriant yn yswirio nwyddau neu bobl rhag niwed. Rydym eisoes wedi edrych ar rai o’r cynhyrchion a gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn y fan hyn:
Cwmnïau pensiwn
Pan fyddwch yn talu i mewn i gynllun pensiwn, bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi gan y cwmni pensiwn. Yn aml byddant yn buddsoddi mewn cyfranddaliadau, sy’n golygu y gallai gwerth eich ‘pot’ pensiwn fynd i lawr neu i fyny.
Gwystlwyr
Gwystlwr yw person neu fusnes, e.e. Cash Converters, sy’n rhoi benthyciad i bobl gan ddefnyddio nwyddau personol fel gwarant. Hynny yw, byddwch yn gadael nwydd gyda’r gwystlwr ac yn derbyn swm o arian. Pan fyddwch yn talu’r swm yn ôl, fe gewch y nwydd yn ôl ond os nad ydych chi’n talu’n ôl, fe fydd y gwystlwr yn cadw a gwerthu’r eiddo. Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy:
Benthyciadau diwrnod cyflog
Rydym eisoes wedi edrych ar rai o’r cynhyrchion a gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn y fan hyn:
Darllenwch fwy am fenthyciadau diwrnod cyflog a’u peryglon yma: