Cynhyrchion yswiriant
Mae yswiriant yn ffordd o ddiogelu eich eiddo rhag digwyddiadau annisgwyl e.e. damwain car. Os oes rhywbeth yn digwydd i’r eiddo sydd wedi ei yswirio, yna bydd y cwmni yswiriant yn talu arian i chi er mwyn ei atgyweirio/trwsio/prynu un newydd.
Gwnewch gopi papur neu gyfrifiadurol o’r tabl canlynol, yna llenwch y tabl gan ddefnyddio:
Yswiriant |
Math |
Nodweddion/manteision/anfanteision |
Car
|
Cynhwysfawr | |
Trydydd parti | ||
Cartref
|
Adeilad | |
Cynnwys | ||
Personol
|
Bywyd | |
Salwch Critigol | ||
Teithio
|
Unwaith | |
Aml-daith |
Astudiaeth achos: Yswiriant
Mae Lara yn 27 mlwydd oed. Mae hi newydd symud i fyw i fflat newydd gyda’i chariad Mathilde a’u ci bach Shih-Tzu, Mot. Mae Lara yn gweithio yng Nghaernarfon ac mae hi’n gyrru i’r gwaith ym Mangor ond mae Mathilde yn gweithio yn nes at adref ac yn gallu beicio i’r gwaith. Mae Lara a Mathilde yn hoff iawn o deithio a newydd archebu gwyliau yn yr Eidal y flwyddyn nesaf.
Edrychwch ar wefan Admiral a gwnewch nodyn o’r nwyddau yswiriant allai fod yn addas ar gyfer Lara a Mathilde.