About Lesson
Ffynonellau cyfalaf allanol
Mae ffynonellau allanol yn deillio o’r tu allan i’r busnes a gallant ddod gan berchnogion, ffrindiau a theulu, banciau a sefydliadau masnachol.
Dyma rai ohonynt:
Cyfalaf perchennog
Arian sy’n cael ei roi yn y busnes gan y perchennog.
Benthyciadau
Swm o arian y gellir gwneud cais amdano o fanc neu sefydliad ariannol. Bydd yn rhaid ei dalu’n ôl gyda llog.
Gwyliwch y fideo sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng benthyciadau ac ecwiti:
Morgais
Benthyciad arbenigol ar gyfer prynu tŷ neu adeilad. Mae’r gyfradd llog ar forgais yn llai nag ar fenthyciad fel arfer ond mae’n cael ei dalu’n ôl dros gyfnod hir.
Cyfalaf menter
Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy:
Ffactoreiddio dyledion a disgowntio anfonebau
Cliciwch ar y ddolen i ddysgu mwy:
Hurbwrcas
Mae hurbwrcasu yn ymwneud â derbyn nwyddau nawr a thalu amdanynt dros amser. Yn aml fe welwch gynlluniau hurbwrcasu yn cael eu hyrwyddo gan siopau fel cynlluniau ‘buy now, pay later’.
Prydlesu
Ffordd o gaffael offer i’ch busnes heb dalu amdanynt o flaen llaw. Mae’n gweithio yn debyg iawn i hurio nwyddau (e.e. hurio car ar wyliau). Bydd y busnes yn derbyn yr offer neu gyfarpar ac yn talu amdano am y cyfnod y mae’n ei ddefnyddio. Mae’n fanteisiol gan nad oes angen talu llawer ar y dechrau ond gall fod yn ddrutach yn y pen draw.
Credyd masnach
Pan fydd busnes yn prynu nwyddau ond yn cael cyfnod o amser cyn y bydd angen talu amdanynt – 30 diwrnod fel arfer.
Grantiau
Swm o arian nad oes angen ei dalu’n ôl.
Rhoddion
Gallwch dderbyn rhoddion oddi wrth ffrindiau neu deulu fel buddsoddiad i’ch busnes. Mae’n ffynhonnell rad o arian ond nid pawb sy’n gallu rhoi arian i rywun arall heb gael unrhyw beth yn ôl!
Benthyca rhwng cymheiriaid a chyllido torfol
Dyma ffyrdd o godi arian trwy ofyn i lawer o bobl y tu allan i’r busnes fuddsoddi.
Gwyliwch y fideo am fwy o fanylion:
Gallwch wrando ar y podlediad hwn gan Syniadau Mawr Cymru i ddysgu mwy am gyllido busnes.