About Lesson
Ffynonellau cyllid mewnol
Ystyr ffynonellau mewnol yw’r arian sydd yn y busnes neu sy’n cael ei greu gan y busnes.
Elw a gedwir
Dyma’r elw y mae’r busnes yn ei wneud. Mae’r elw yn gallu cael ei ddosbarthu i’r perchnogion neu ei roi yn ôl i mewn i’r busnes er mwyn ei ddatblygu.
Asedau cyfredol net
Asedau cyfredol net (neu gyfalaf gweithiol) yw asedau cyfredol (stoc, dyledwyr, arian yn y banc) tynnu rhwymedigaethau cyfredol. Mae’n arian sydd gan y busnes i dalu ei ddyledion o ddydd i ddydd.
Gwerthu asedau
Gall busnes rhyddhau cyllid drwy werthu asedau fel offer a chyfarpar. Ond mae’n rhaid sicrhau nad oes angen yr asedau er mwyn rhedeg y busnes.