Sgiliau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
Mae angen i reolwyr ac arweinwyr feddu ar sgiliau arbennig er mwyn cyflawni eu rôl o fewn y busnes. Cliciwch ar y sgil i ddarllen mwy amdano.
Gosod Amcanion
Mae gosod amcanion yn rôl bwysig o fewn rheolaeth. Mae angen gosod amcanion unigol er mwyn i’r busnes allu cwrdd â’i amcanion cyffredinol.
Cymhelliant
Mae’n bwysig gallu cymell staff. Mae staff sydd wedi cael eu cymell yn gweithio’n fwy effeithlon ac yn gwneud eu gorau dros y busnes. Mae staff sy’n ddigymhelliant yn debygol o osgoi gwaith lle bo hynny’n bosib, cymryd mwy o amser i ffwrdd o’r gwaith a gadael y busnes yn gynt.
Gwneud Penderfyniadau
Yr arweinwyr sy’n gwneud penderfyniadau yn y pen draw. Hyd yn oed pan fyddant yn arddel dull democrataidd o weithio, nhw fydd yn gorfod gwneud y penderfyniad terfynol.
Adeiladu Tîm
Mae adeiladu tîm yn rhan hanfodol o reoli ond mae’n golygu mwy na dim ond rhoi tîm at ei gilydd. Mae’n ymwneud â pherthnasoedd o fewn y tîm a sut mae pobl yn y tîm yn cydweithio. Gellir gwneud hyn drwy osod amcanion, pennu arweinwyr, sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’u rôl a’u bod yn cyfathrebu’n effeithiol.
Munud i feddwl
Meddyliwch am adegau pan wnaethoch chi weithio mewn tîm.
Oedd y tîm yn gweithio’n effeithiol?
Beth oedd yn ei wneud yn effeithiol neu beidio?
Arwain trwy esiampl
Mae disgwyl i arweinydd ddangos esiampl i weddill y gweithlu. Bydd hyn yn golygu bod yn bresennol yn y gweithle a chyfathrebu â phobl yn y gwaith yn hytrach na bod y tu ôl i ddrws caeedig mewn swyddfa neu mewn cyfarfodydd.
Ymgynghori
Nid yw rheolwyr yn gwneud penderfyniadau mewn gwagle felly mae ymgynghori yn elfen hanfodol o waith bob dydd rheolwyr. Gall hyn gynnwys ymgynghori gyda gweithwyr, rheolwyr eraill neu bobl y tu allan i’r cwmni, er enghraifft.
Datrys problemau
Bydd angen i reolwyr ac arweinwyr adnabod problemau a’u datrys. I arweinwyr efallai y bydd hyn ar lefel strategol, hynny yw, cyfeiriad cyffredinol y cwmni. I reolwyr, ar y llaw arall, efallai y byddant yn ymwneud â phethau sy’n digwydd o ddydd i ddydd, e.e. absenoldeb staff.
Gwerthfawrogi a chefnogi pobl eraill
Mae pobl yn hoffi teimlo bod eraill yn eu gwerthfawrogi ac mae rheolwyr effeithiol yn gwybod bod angen cefnogaeth ar yr holl dîm mewn busnes. Er taw’r rheolwyr sy’n gwneud y penderfyniadau, y gweithwyr sy’n mynd i wireddu’r penderfyniadau hynny yn y pen draw.
Rheoli gwrthdaro
O bryd i’w gilydd bydd gwrthdaro yn digwydd mewn unrhyw weithle. Gall pobl anghytuno am ffyrdd o weithio, y ffordd orau o ddatrys problemau neu fod â phersonoliaethau gwahanol. Bydd yn rhaid i reolwyr ac arweinwyr ddelio â hyn er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu gweithio gyda’i gilydd yn gytûn.
Munud i feddwl
Gwyliwch y fideo am Theatr Genedlaethol Cymru.
Sut maen nhw’n ymwneud â gwrthdaro mewn timoedd?
Meithrin perthnasoedd rhyngbersonol cadarnhaol
Mae rheoli ac arwain yn ymwneud â chael y gorau o bobl. Er mwyn gwneud hyn mae’n ddefnyddiol gallu meithrin perthnasoedd rhyngbersonol cadarnhaol gyda’r bobl sy’n gweithio i chi.
Defnyddio deallusrwydd emosiynol
Mae deallusrwydd emosiynol yn ymwneud â rheoli eich emosiynau chi eich hun a deall emosiynau pobl o’ch cwmpas. Mae angen i reolwyr gadw eu hemosiynau eu hunain o dan reolaeth ac mae’n bwysig gallu darllen emosiynau pobl eraill er mwyn gallu ymdrin â nhw mewn ffordd gadarnhaol.
Cyfathrebu
Cyfathrebu yw un o brif sgiliau rheolwr. Mae’n hanfodol cyfathrebu’n glir mewn llawer o sefyllfaoedd busnes.
Rhoi adborth
Bydd angen i reolwyr ac arweinwyr roi adborth yn aml. Gall hyn fod yn adborth syml wrth fynd heibio neu’n adborth mwy dwys, yn gadarnhaol neu’n negyddol.