About Lesson
Arddulliau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
Mae nifer o arddulliau arwain a rheolaeth wedi cael eu disgrifio.
Cliciwch ar y math o arddull i ddysgu mwy.
Awtocrataidd
Yn y dull rheoli hwn mae’r arweinydd yn gwneud y penderfyniadau ac yn dweud wrth bobl beth i’w wneud. Does dim lle i fewnbwn gan eraill a gall arwain at ddiffyg cymhelliant am nad yw pobl yn gallu cyfrannu. Fodd bynnag , mewn rhai sefyllfaoedd gall fod yn effeithiol, e.e. yn y fyddin pan mae angen dilyn cyfarwyddiadau a does dim lle i drafod.
Tadol
Mae arweinwyr tadol yn debyg iawn i arweinwyr awtocrataidd. Nhw sy’n gwneud yr holl benderfyniadau ond mae arweinydd tadol yn gofalu am fuddiannau’r gweithwyr.
Democrataidd/cyfranogol
Mae rheolwr democrataidd yn annog trafodaeth ac yn ceisio sicrhau mewnbwn gan eraill. Bydd penderfyniadau yn cael eu trafod a’u gwneud ar y cyd. Mae’r math hwn o reolaeth yn gallu arwain at ymdeimlad o fod yn rhan o dîm ac felly yn meithrin cymhelliant ond gall gymryd mwy o amser i ddod i benderfyniadau.
Laissez-faire
Ymadrodd Ffrangeg yw laissez faire sy’n golygu ‘gadewch iddo fod’ ac mae arweinydd laissez faire yn rhoi rhyddid i weithwyr wneud eu swyddi heb ormod o reolaeth. Mae’n gallu gweithio’n effeithiol gyda gweithwyr sydd â chymhelliant personol uchel ond mae perygl y gall gweithwyr gymryd mantais a bod yr arweinydd yn edrych yn wan.
Carismatig
Mae grym arweinwyr carismatig yn dod o’u personoliaeth. Mae ganddynt y gallu i ysbrydoli pobl a’u cymell. Maent yn hyderus, yn hawdd dod ymlaen gyda nhw ac yn berswadiol. Enghreifftiau o bobl garismatig enwog yw Barak Obama, Jurgen Klopp, Malala Yousafzaia a Greta Thunberg.
Munud i feddwl
Allwch chi feddwl am bobl garismatig yn eich bywyd chi?
Sut maen nhw yn eich ysbrydoli?
Ydych chi’n meddwl bod angen i bobl fod yn garismatig er mwyn bod yn arweinwyr da? Trafodwch gyda ffrind.