Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Adnoddau ffisegol
0/1
Adnoddau ariannol
0/1
Modiwl 5: Deall pwysigrwydd rheoli adnoddau
About Lesson

Adnoddau ffisegol

 

Mae adnoddau ffisegol yn cynnwys unrhyw beth sy’n gallu cael ei gyffwrdd, e.e. adeilad, peiriannau, offer ac yn y blaen.

Bydd rhaid i fusnes wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i’w caffael

Penderfynu rhentu neu brynu adeilad
Gallwch brynu adeilad neu ei rentu. Mae prynu adeilad yn ddrud ond mae gwerth adeiladau yn cynyddu fel arfer ac felly yn ased gwerthfawr. Ar y llaw arall, mae’n rhaid cynnal a chadw’r safle. Wrth rentu, gwaith y landlord fydd gofalu am yr adeilad ond bydd y busnes yn gorfod talu rhent.
Cyfarpar angenrheidiol a cherbydau
Yn yr un modd gellir prynu neu brydlesu cyfarpar a cherbydau. Mae prynu’r cyfarpar yn ddrud ac nid yw gwerth asedau sefydlog fel hyn yn cynyddu fel arfer. Ar y llaw arall, mae prydlesu yn rhatach yn y tymor byr ond yn gallu bod yn llawer drutach yn y tymor hir.
Caledwedd a meddalwedd TG
Mae caledwedd TG yn cynnwys cyfrifiaduron, argraffwyr, sgriniau, taflunyddion a ffonau symudol, tra bod meddalwedd yn cynnwys pecynnau fel Office, rhaglenni waliau tân a gwrth firws a phecynnau arbenigol. Mae TG yn newid yn feunyddiol a gall fod yn ddrud i’w newid.
Cyflenwyr a chostau
Mae cyflenwyr yn gost i fusnes ond mae’n gost angenrheidiol er mwyn gweithredu. Dros amser fe fydd busnes yn meithrin perthynas gyda chyflenwyr ond ar y dechrau bydd rhaid dewis cyflenwyr yn ofalus.

Munud i feddwl

Rydych yn ystyried prynu car. Gallwch ei brynu am £10,000 neu gallwch ei brydlesu am £200 y mis. Rydych yn disgwyl cadw’r car am tua 6/7 mlynedd.

Ydych chi’n penderfynu prynu neu brydlesu’r car? Pam?