About Lesson
Adnoddau dynol
Fel arfer, adnoddau dynol yw cost fwyaf busnes. Er enghraifft, roedd bil cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cyflogwr mwyaf y Deyrnas Unedig, yn £71.1bn yn 2022/23 – dros 45% o’i holl gyllideb.
Gofynion staff ar gyfer effeithlonrwydd
Fel y gwelsom, mae adnoddau dynol yn gallu bod yn ddrud, felly mae’n rhaid i fusnesau wneud penderfyniadau ynglŷn â faint o staff i’w cyflogi, eu horiau gwaith a sut i’w talu er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithlon.
Dulliau talu
Bydd angen i fusnesau wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i dalu staff. Mae talu staff yn ôl yr amser y maent yn gweithio, e.e. talu yn ôl yr awr, yn gweithio i rai busnesau, e.e. staff manwerthu, tra bod talu yn ôl faint sy’n cael ei gynhyrchu yn addas i fusnesau eraill, e.e. busnesau gweithgynhyrchu. Telir cyflog fesul blwyddyn yn seiliedig ar y nifer o oriau/diwrnodau y mae person yn gweithio e.e. caiff athrawon eu talu’n flynyddol am 195 o ddyddiau gwaith
Llawn-amser/rhan-amser
Bydd angen i fusnes benderfynu a yw am gyflogi staff llawn-amser, rhan-amser neu amrywiaeth.
Egwyddorion rheolaeth – Yr angen am hyblygrwydd o ran y gweithlu
Y broses recriwtio
Mae angen gwneud nifer o benderfyniadau yn ystod y broses recriwtio, e.e. pa swydd i’w recriwtio, ble i hysbysebu, dewis rhestr fer, dewis pwy i’w gyflogi. Atgoffwch eich hun o’r broses:
Egwyddorion rheolaeth – Technegau i fodloni anghenion sgiliau
Gofynion hyfforddiant a chostau hyfforddiant
Mae hyfforddiant yn gallu bod yn gost sylweddol, yn enwedig os yw’n cael ei ddarparu gan sefydliad allanol. Bydd hyfforddiant mewnol yn llawer rhatach ond efallai na fydd gan y busnes yr arbenigedd angenrheidiol, e.e. os bydd busnes yn buddsoddi mewn technoleg newydd.