Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Sgiliau Busnes
0/1
Modiwl 7: Gwneud Penderfyniadau Busnes
About Lesson

Defnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth i greu dogfennaeth briodol

Meddalwedd priodol ar gyfer cynhyrchu adroddiad busnes ffurfiol / crynodeb gweithredol

Mae nifer o becynnau prosesu geiriau y gellir eu defnyddio er mwyn creu dogfennaeth bwrpasol ar gyfer adroddiad ffurfiol. Word yw un o’r rhai mwyaf adnabyddus ond mae nifer o rai eraill hefyd ar gael ar gyfer busnesau, e.e. Pages, Google Docs, LibreOffice a.y.b.

 

Yn aml bydd busnesau yng Nghymru yn creu dogfennaeth ddwyieithog. Mae hyn yn gallu cynnwys dogfennau lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg ar wahân mewn dogfennau gwahanol neu ddogfennau dwyieithog.

 

Gallwch weld Canllaw Comisiynydd yr Iaith Gymraeg ynglŷn â dogfennau dwyieithog fan hyn:

 

Canllaw dylunio

Munud i feddwl

Edrychwch ar yr adroddiad dwyieithog canlynol:

Beth sy’n gweithio’n dda?

Oes unrhyw beth sydd ddim yn gweithio mor dda?

Gellir defnyddio pecynnau meddalwedd cyhoeddi pen desg neu raglenni arbenigol ar-lein hefyd. Bydd busnesau am frandio unrhyw gyhoeddiadau ac efallai bydd ganddynt ganllawiau brand sy’n awgrymu gwedd pob cyhoeddiad. Mae hyn yn sicrhau delwedd gorfforaethol gydlynol.

Munud i feddwl

Edrychwch ar ganllawiau brand y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

Sut mae’r canllaw brand yn helpu i sicrhau delwedd gorfforaethol gydlynol?

Meddalwedd briodol ar gyfer cynhyrchu cyflwyniad
Ar gyfer cyflwyniad, gellir defnyddio rhaglenni megis PowerPoint neu raglenni ar lein fel Canva neu Prezi.

Gallwch weld canllawiau ar gyfer creu cyflwyniad dwyieithog drwy ddilyn y ddolen:

Rhaglenni/pecynnau meddalwedd ar gyfer cynhyrchu a thrin gwybodaeth ariannol
Mae nifer o raglenni y gellir eu defnyddio i drin gwybodaeth ariannol. Mae Excel yn rhaglen adnabyddus ar gyfer trin data ar ffurf taenlenni ond mae yna raglenni arbenigol ar gyfer cyfrifydda hefyd, fel QuickBooks neu Sage.

Munud i feddwl

Gwyliwch y fideo isod.

Beth yw manteision defnyddio rhaglen gyfrifydda ar-lein yn ôl Parc Carafannau Tree Tops?