Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Sgiliau Busnes
0/1
Modiwl 7: Gwneud Penderfyniadau Busnes
About Lesson

Sgiliau busnes

Ystyried yr holl ffactorau allweddol a dulliau gweithredu amgen
Cyn dod i benderfyniad busnes bydd angen ystyried yr holl ffactorau ac edrych ar ffyrdd gweithredu amgen. Nid y penderfyniad mwyaf amlwg yw’r un gorau bob tro. Mae gwneud ymchwil, dadansoddi a gwerthuso’r wybodaeth cyn dod i benderfyniad yn hanfodol.
Ystyried risg wrth wneud penderfyniadau/arfarniadau terfynol
Mae yna risg i bob penderfyniad ond gall ystyried y risgiau yn ofalus arwain at wneud penderfyniadau sy’n lleihau risg gymaint â phosibl.
Risg gyfreithiol
Bydd angen i fusnes sicrhau nad yw ei benderfyniadau yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth wladol. Gallai hyn olygu sicrhau bod gweithgareddau ddim yn torri deddfau sy’n bodoli neu addasu gweithgareddau er mwyn cydymffurfio â deddfau newydd.
Risg i enw da
Gall penderfyniadau busnes effeithio ar y ffordd mae pobl yn gweld y busnes a’u teimladau am y busnes. Bydd hyn yn gallu effeithio ar eu dewis i brynu neu ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau’r busnes.
Risg Ariannol
Mae’n rhaid i benderfyniadau busnes fod yn ariannol sicr. Dylent fod wedi eu costio a dylai busnesau sicrhau eu bod yn broffidiol neu yn rhoi gwerth am arian.