About Lesson
Ffactorau allanol
Gellir astudio’r ffactorau allanol sy’n effeithio ar fusnesau rhyngwladol gan ddefnyddio penawdau dadansoddiad PESTLE (Political, Economic, Social, Technological, Environmental, Legal):
Gwleidyddol
![]() |
Y llywodraeth sy’n gosod deddfwriaeth o ran gwneud busnes mewn gwlad ac felly gall y sefyllfa wleidyddol gael effaith fawr. Er bod rheolau’r blociau masnach y mae’r wlad yn rhan ohonynt yn effeithio rhywfaint ar y dirwedd wleidyddol, mae gan lywodraeth y dydd lawer iawn o ddylanwad. Bydd gan lywodraethau flaenoriaethau gwahanol a allai effeithio ar fusnes, e.e. polisïau sero net neu bolisïau mewnfudo. |
Economaidd
![]() |
Mae sefyllfa economaidd gwlad yn gallu cael effaith hefyd. Mae cyfoeth cymharol gwlad yn effeithio ar faint o arian sydd gan ei thrigolion i’w wario ar nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal â chael effaith ar faint o arian sydd gan y llywodraeth i’w fuddsoddi mewn isadeiledd, e.e. trafnidiaeth. Bydd lefelau treth, llog a chwyddiant y wlad hefyd yn gwneud gwahaniaeth i ba mor broffidiol yw masnachu, gan eu bod yn effeithio ar faint o arian sydd gan bobl i’w wario.
Mae gwledydd yn mynd drwy gyfnodau economaidd gwahanol ac mae gwlad sy’n mynd drwy gyfnod economaidd llewyrchus yn mynd i fod yn lle llawer gwell i fasnachu na gwlad sy’n mynd drwy gyfnod economaidd anodd. |
Cymdeithasol
![]() |
Mae patrwm cymdeithasol gwlad yn cael effaith ar fusnes, gan gynnwys ffordd pobl o fyw, eu hoedran, lefel eu haddysg a diwylliant. (Byddwn yn edrych ar effaith diwylliant yn yr uned nesaf.) |
Technolegol
![]() |
Mae busnesau sy’n gweithredu ar draws y byd yn aml yn ddibynnol ar dechnoleg cyfathrebu er mwyn cadw mewn cysylltiad. Felly mae lefel datblygiad technolegol gwledydd yn gallu bod yn ffactor bwysig. |
Cyfreithiol
![]() |
Agwedd arall sy’n gallu effeithio ar fusnesau yw’r ochr gyfreithiol, sef yr hyn sy’n gyfreithiol ac yn anghyfreithiol a pha reoliadau a deddfau y dylai busnesau gydymffurfio â hwy. Rhai o’r deddfau pwysig y mae angen i fusnesau fod yn ymwybodol ohonynt yw deddfau cyflogaeth, deddfau trosedd a deddfau busnes wrth gwrs. |
Amgylcheddol a moesegol
![]() |
Mae’r amgylchedd yn chwarae rhan fwyfwy mewn gweithgareddau busnes ar draws y byd. Mae hyn yn cynnwys sut mae’r busnes yn effeithio ar yr amgylchedd a sut mae’r amgylchedd yn effeithio ar y busnes. Mae ymddwyn mewn ffordd foesegol yn dod yn bwysicach i gwsmeriaid ac maent yn edrych am fusnesau sy’n gwneud hyn. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn golygu bod gan rai cwsmeriaid lawer mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae busnesau yn ymddwyn ac mae enghreifftiau o wyrddgalchu (greenwashing) yn gallu dod i’r amlwg yn gynt. |
Munud i feddwl
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen mwy am ddeddfau cyflogaeth annisgwyl ar draws y byd (Saesneg yn unig).