Systemau cymorth rhyngwladol – Dulliau talu rhyngwladol
Rydym yn barod wedi edrych ar daliadau o flaen llaw a llythyron credyd ond mae dulliau talu eraill hefyd y gellir eu defnyddio.
Dulliau talu
Cyfrif agored
Mae cyfrif agored yn ffordd o roi credyd i brynwr. Mae’r nwyddau yn cael eu cludo heb fod y cyflenwr yn derbyn tâl ac mae’r prynwr wedyn yn talu o fewn cyfnod penodol (30, 60 neu 90 diwrnod).
Mae cwsmeriaid yn hoffi gallu talu ar ôl derbyn y nwyddau.
Gall achosi problemau llif arian i’r gwerthwr.
Trosglwyddiad
Y gwerthwr yw perchennog y nwyddau hyd nes byddant yn cael eu gwerthu gan y dosbarthwr.
Y dosbarthwr neu’r asiant sy’n gofalu am y nwyddau felly mae angen lefel uchel o ymddiriedaeth
Cardiau credyd rhyngwladol
Cardiau credyd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol arian cyfred.
Gellir defnyddio cardiau credyd fel Visa a Mastercard ledled y byd.
Dydyn nhw ddim yn cael eu derbyn ym mhob man. Ceir ffioedd.
Trosglwyddiad banc rhyngwladol
Trosglwyddo arian o fanc i fanc.
Mae’n ffordd ddiogel o dalu.
Weithiau bydd angen talu ffi am wneud hyn.
Systemau talu masnachol
Mae lefel ychwanegol o ddiogelwch e.e. ‘touch ID’ neu adnabod wyneb.
Mae angen i’r ffôn fod ar gael ac yn gweithio er mwyn defnyddio systemau ffôn symudol.