Systemau cymorth busnes rhyngwladol – effaith y rhyngrwyd
Mae systemau cymorth sy’n gwneud masnachu ar draws y byd yn haws o lawer.
Mae’r rhyngrwyd wedi bod yn newid byd (yn llythrennol) i rai busnesau. Mae’r ffaith bod cyfarfodydd yn gallu cael eu cynnal wyneb yn wyneb gyda phobl ar ochr arall y byd yn gwella cyfathrebu.
Mae’n ddigon hawdd i fusnesau amlwladol gynnal cyfarfodydd gyda thimoedd sydd wedi eu gwasgaru yn ddaearyddol a does dim rheidrwydd iddynt sefydlu swyddfeydd i bobl weithio ynddynt.
Mewn siopau rhithwir does dim amseroedd agor na chau ac mae cwsmeriaid yn gallu prynu nwyddau pan fo hynny’n gyfleus iddyn nhw.
Mae’r newid technolegol hwn law yn llaw â dulliau talu rhyngwladol wedi gweddnewid masnachu rhyngwladol i fusnesau.
Munud i feddwl
Gwyliwch y fideo.
Sut mae band eang cyflym iawn wedi bod o fudd i gwmni Gingenious?