About Lesson
Mathau o incwm
Incwm yw’r arian sy’n dod i mewn i fusnesau. Mae’n cael ei rannu yn ddau fath, sef incwm cyfalaf ac incwm refeniw.
Incwm cyfalaf
Benthyciad
Swm o arian y mae busnes yn ei dderbyn ac yna bydd yn ei dalu’n ôl mewn rhandaliadau. Bydd yn rhaid talu llog.
Morgais
Math o fenthyciad sy’n cael ei ddefnyddio i brynu adeilad neu dŷ. Mae morgais fel arfer yn cael ei dalu’n ôl dros gyfnod o 25-30 mlynedd.
Cyfranddaliadau/Ecwiti
Rhannau bach o fusnes y mae pobl yn berchen arnynt. Mae cyfranddalwyr yn gallu derbyn buddran, sef canran o elw’r cwmni, ac mae ganddynt hawliau pleidleisio fel un o berchnogion y cwmni.
Cyfalaf y perchennog
Yr arian y mae’r perchennog/perchnogion yn ei fuddsoddi yn y busnes.
Dyledebion
Math o gyfalaf benthyciad. Mae gan ddalwyr dyledeb hawl i adenillon sefydlog ar eu buddsoddiad ond nid oes ganddynt hawliau pleidleisio.
Incwm refeniw
Dyma’r incwm a ddaw i mewn o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys:
Gwerthiannau arian parod
Gwerthiannau o ddydd i ddydd y rhoddir tâl amdanynt yn syth. Er enghraifft, pan fydd cwsmer yn talu am nwyddau mewn siop, mae hyn yn enghraifft o werthant arian parod.
Gwerthiannau credyd
Gwerthiannau y rhoddir tâl amdanynt yn hwyrach.
Gall hefyd gynnwys rhent a dderbyniwyd (os yw busnes yn rhentu adeilad neu safle allan) , comisiwn a dderbyniwyd ar werthiannau, llog o arian a gedwir yn y banc neu o ffynonellau eraill a gostyngiadau.