About Lesson
Mathau o wariant
Mae gan fusnesau wahanol fathau o wariant. Eto gellir eu dosbarthu yn ddau fath, sef gwariant cyfalaf a gwariant refeniw.
Mae gwariant cyfalaf yn cael ei wario ar asedau anghyfredol sy’n cael eu defnyddio dros y tymor hir yn y busnes ac er mwyn gwella’r busnes.
- Asedau diriaethol – asedau rydych chi’n gallu eu gweld a’u cyffwrdd, e.e. tir, adeiladau, peiriannau, offer, cerbydau, gosodiadau a ffitiadau
- Asedau anniriaethol – asedau dydych chi ddim yn gallu eu gweld na’u cyffwrdd, e.e. enw brand neu eiddo deallusol
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am eiddo deallusol.