About Lesson

Pwrpas cyfrifeg
Mae cyfrifeg yn bwysig er mwyn cofnodi trafodion a chynllunio, monitro a rheoli arian. Mae cyfrifeg yn sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Mae hefyd yn ddull o fesur perfformiad a sicrhau rheolaeth drwy warantu nad oes twyll yn gallu digwydd a bod gan y busnes reolaeth dros yr hyn sy’n gorfod cael ei dalu a’r hyn sy’n cael ei dderbyn.