Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Modiwl 1: Cynlluniau Busnes
About Lesson

Pwrpas a Strwythur Busnes

 

Bydd angen gwneud nifer o benderfyniadau ar gyfer cynllun busnes:

Amcanion a nodau
P’un a yw’r busnes yn newydd neu’n datblygu, bydd angen ystyried nodau ac amcanion. Mae nodau ac amcanion busnes newydd yn debygol o fod ynghylch sefydlu ei hun yn y farchnad, goroesi, creu enw da a chodi ymwybyddiaeth. Gall amcanion busnes sydd wedi’i sefydlu gynnwys twf, arallgyfeirio neu adeiladu mewn rhyw ffordd yn yr hyn y maent wedi ei ddatblygu yn barod.
Cynnyrch/gwasanaeth

Bydd angen i fusnes benderfynu ar ei nwyddau a gwasanaethau. Mae’r amrywiaeth o nwyddau/gwasanaethau yn holl bwysig er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cwsmeriaid.

Mathau o berchnogaeth a rhesymau dros newid

Mae sawl math o berchnogaeth y gall busnes ei ystyried. Mae nifer o fusnesau yn dechrau fel unig fasnachwr neu bartneriaethau gan fod y rhain yn strwythurau hawdd i’w gosod. Yn aml, wrth i’r cwmni ddatblygu a thyfu, bydd strwythurau amgen yn dod a manteision fel rhwymedigaeth cyfyngedig a’r gallu i godi mwy o gyfalaf drwy werthu cyfranddaliadau.

Gallwch adolygu’r gwahanol fathau o berchnogaeth busnes drwy ddilyn y ddolen:

Busnesau Preifat

hyd at

Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus

Strwythur y busnes – fflat, matrics, hierarchaidd

Mae strwythur busnes bach yn dueddol o fod yn wastad. Does dim angen strwythur penodol pan mae nifer fechan o bobl yn gweithio mewn busnes. Ond wrth i’r busnes dyfu, bydd angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut bydd y busnes yn cael ei drefnu er mwyn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol posib.

Cliciwch ar y ddolen i atgoffa’ch hun o’r gwahanol strwythurau:

Trefniadaeth Busnes
Lleoliad y busnes – lleol, cenedlaethol, rhyngwladol

Gall lleoliad busnes ddibynnu ar ei farchnad darged a’i nwydd neu wasanaeth. Er enghraifft, mae’n rhaid i fusnes trin gwallt fod yn agos at ei farchnad ond gall busnes sy’n cynnig gwasanaeth ar-lein gael ei leoli unrhyw le yn y byd os oes cysylltiad rhyngrwyd.

Gwerthuso, cyfiawnhau a chyfuno syniadau busnes

Fydd busnesau byth yn gwneud penderfyniadau ar hap. Byddant yn mynd ati i ymchwilio a gwerthuso gwybodaeth yn ogystal â chyfiawnhau pam mae un dewis yn well nag un arall. Yn aml bydd angen cyfuno gwybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau a gan nifer o bobl neu dimoedd gwahanol cyn dod i benderfyniad terfynol.