Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus
Dyma’r math mwyaf cyffredin ar berchnogaeth busnes.
Mae ffurfio cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus yn fwy cymhleth ac mae angen iddynt godi o leiaf £50,000 o gyfalaf trwy werthu cyfranddaliadau. Maent yn gallu gwerthu cyfranddaliadau i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’r cyfranddaliadau’n cael eu prynu a’u gwerthu ar y farchnad stoc. Mae angen hefyd iddynt gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n cynnwys gwybodaeth ariannol. Mae Cwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus yn cael eu dynodi gan y llythrennau CCC (PLC).
Manteision
Manteision Cwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus yw eu bod yn gallu codi mwy o gyfalaf, maent yn gallu dominyddu’r farchnad oherwydd eu maint ac maent yn ei chael yn haws i gael cyllid gan fod banciau yn fwy parod i roi benthyg arian iddynt.
Anfanteision
Ar y llaw arall mae’r ffaith bod y cyfranddaliadau yn gallu cael eu prynu gan unrhyw un yn gallu golygu y gallai rhywun o du allan y cwmni brynu digon o’r cyfranddaliadau i gael rheolaeth dros y cwmni. Mae hefyd yn gallu bod yn ddrud i’w sefydlu.
Peidiwch â drysu rhwng Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus a sefydliad cyhoeddus. Mae’r gair ‘cyhoeddus’ fan hyn yn cyfeirio at y ffaith bod cyfranddaliadau Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus yn cael eu gwerthu yn gyhoeddus h.y. gall unrhyw un brynu cyfrannau yn y cwmnïau hyn.
Ystyriwch pam y byddai busnes eisiau bod yn Gwmni Cyfyngedig Cyhoeddus yn hytrach na Chwmni Cyfyngedig Preifat.