
Syniadau Busnes
Mae cynlluniau busnes yn amlinellu’r syniadau ar gyfer y busnes yn y dyfodol. Byddwch yn clywed yn aml am yr angen i greu cynllun busnes wrth greu menter newydd ond mae cynlluniau busnes yn bwysig drwy gydol oes y busnes. Mae syniadau busnes yn gallu digwydd ar unrhyw adeg ond yn aml maent yn ymateb i symbyliad allanol.
Busnes Newydd
Bydd syniadau ar gyfer busnesau newydd yn dod o sawl cyfeiriad:
Bwlch yn y farchnad
Cystadleuwyr
Tueddiadau cyfredol
Galw tebygol
Busnes wedi’i sefydlu’n barod
Gall newidiadau tebyg orfodi busnes sydd wedi’i sefydlu i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i addasu:
Newidiadau yn yr hinsawdd economaidd
Mae’r fideo hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y cylchred economaidd (Saesneg yn unig):
Mae newidiadau yn yr hinsawdd economaidd yn creu cyfleoedd ar gyfer gwahanol fathau o fusnesau. Pan mae’r economi yn mynd yn dda mae pobl yn tueddu i wario mwy ar gynhyrchion a gwasanaethau moethus, e.e. gwyliau tramor, mynd allan i fwyta a nwyddau fel setiau teledu, ceir ac yn y blaen. Pan nad yw’r economi yn gwneud cystal mae pobl yn dueddol o gynilo eu harian, gwario mwy ar brydau parod i fwyta gartref, mynd ar wyliau yn lleol a phrynu ffilmiau i wylio gartref. Maen nhw’n cadw ceir a nwyddau eraill yn hirach ac yn trwsio neu brynu’n ail-law yn hytrach na phrynu pethau newydd.
Munud i feddwl
O’r wybodaeth uchod, meddyliwch pa fathau o fusnesau sy’n elwa mewn ffyniant economaidd a pha fathau o fusnesau sy’n elwa pan na fydd yr economi yn perfformio mor dda.
Tueddiadau
Mae tueddiadau cwsmeriaid hefyd yn effeithio ar fusnesau sydd wedi’u sefydlu a byddant yn cadw llygad ar ymddygiad cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb i’r tueddiadau hynny. Er enghraifft, mae nifer o fusnesau wedi ymateb i’r twf diweddar yn y nifer o bobl sy’n dewis bod yn fegan a chynnig dewisiadau fegan fel rhan o’u hamrywiaeth o nwyddau, er enghraifft:
Cystadleuaeth
Os oes busnes wedi cymryd mantais o fwlch yn y farchnad neu dechnoleg newydd, bydd ganddo gyfnod heb lawer o gystadleuaeth. Ond ymhen hir a hwyr bydd mwy o fusnesau yn ymuno yn y farchnad. Hefyd, os yw patentau yn dod i ben, bydd cwmnïau eraill yn gallu copïo’r dechnoleg newydd neu greu eu nwyddau eu hunain. Wrth i gystadleuwyr gyrraedd y farchnad, efallai bydd yn rhaid i fusnes addasu i’r amgylchedd cystadleuol newydd.
Gallai hyn ymwneud â defnyddio Matrics Ansoff er mwyn dadansoddi’r amgylchedd cystadleuol.