Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Ffynonellau casglu data
0/1
Defnyddio modelau busnes i helpu i wneud penderfyniadau
0/1
Fformatau addas ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun busnes
0/2
Gwybodaeth a gynhyrchir gan feddalwedd ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn busnes.
0/1
Modiwl 2: Gwneud Penderfyniadau mewn Busnes
About Lesson

Defnyddio modelau busnes i helpu i wneud penderfyniadau

 

Gall busnesau ddefnyddio nifer neu gyfuniad o fodelau er mwyn dadansoddi eu hamgylchedd mewnol ac allanol. Mae dadansoddi’r amgylchedd busnes yn rhoi strwythur i fusnes allu ystyried y sefyllfa yn llawn. Er nad oes byth sicrwydd ynglŷn â beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, gall dadansoddi’r farchnad yn ofalus arwain at wneud penderfyniadau gwell.

Cliciwch ar y model i weld mwy amdano:

Matrics Ansoff

 

Mae Matrics Ansoff yn cynnig pedair strategaeth wahanol ar gyfer twf, sy’n dibynnu ar y cynnyrch a’r farchnad. Mae’n cynnig gwahanol strategaethau sy’n dibynnu a yw’r cynnyrch yn newydd neu’n bodoli ac a yw’r farchnad yn newydd neu’n bodoli.

 

Marchnad Cynnyrch
Bodoli Newydd
Bodoli Treiddio’r farchnad Datblygu’r cynnyrch
Newydd Datblygu’r farchnad Amrywiaethu

 

Treiddio’r farchnad
Er mwyn tyfu mewn marchnad sy’n bodoli gyda chynnyrch sy’n bodoli, mae model Ansoff yn cynnig y dylid ceisio treiddio’r farchnad, h.y. ceisio cael y cwsmer i brynu mwy o’r cynnyrch neu sicrhau bod cwsmeriaid yn defnyddio’u brand nhw yn hytrach na brand busnes arall.
Datblygu’r cynnyrch
Gyda nwydd newydd mewn marchnad sy’n bodoli, dylid ffocysu ar ddatblygu’r nwydd yn ôl Ansoff. Mae cwmnïau ffonau symudol yn gwneud hyn gan lansio fersiynau newydd o’u ffonau yn aml.
Datblygu’r farchnad
Ar y llaw arall, os yw’r nwydd yn bodoli ond y farchnad yn newydd, yna bydd angen datblygu’r farchnad, e.e. marchnata’r cynnyrch mewn gwlad arall.
Amrywiaethu
Dyma pryd bydd busnes yn datblygu cynnyrch newydd mewn marchnad newydd. Dyma’r strategaeth sydd â’r mwyaf o risg yn y tymor byr ond yn gallu gwasgaru risg os yw’n llwyddiannus gan na fydd busnes mor ddibynnol ar y farchnad a chynhyrchion presennol.

Gallwch ddarllen mwy am Fatrics Ansoff yma:

Gwyliwch y fideo isod am y Matrics Ansoff.

Matrics Boston

 

Mae Matrics Boston yn fodel sy’n canolbwyntio ar ddadansoddi cynhyrchion mewn portffolio busnes. Wrth ddadansoddi’r cynnyrch, gall busnesau wedyn ddatblygu strategaethau sy’n addas i’r cynnyrch hwnnw.

Mae’r matrics hwn yn gosod cynhyrchion ym mhortffolio cwmni mewn un o bedwar categori, yn dibynnu ar gyfran y farchnad sydd gan y cynnyrch a thwf yn y farchnad.



Seren
Dyma gynnyrch sydd â chyfran y farchnad uchel mewn marchnad sy’n tyfu. Mae seren yn gallu bod yn gynnyrch proffidiol iawn ond mewn marchnad sy’n tyfu mae’n debygol bod ganddo gystadleuaeth frwd. Felly, mae angen hysbysebu a hyrwyddo’r cynnyrch er mwyn ei gadw ym meddyliau’r cwsmeriaid.
Peiriant arian

Mae gan y math hwn o gynnyrch gyfran uchel o’r farchnad mewn marchnad sy’n tyfu’n araf neu sydd wedi peidio â thyfu. Mae’r cynhyrchion hyn yn berfformwyr sefydlog ond rhaid sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu denu at fusnesau a nwyddau eraill.

Marc cwestiwn
Mae’r cynhyrchion hyn yn rhai sydd â chyfran isel o’r farchnad mewn marchnad sy’n tyfu. Gan fod y farchnad yn tyfu, mae potensial i’r cynnyrch hwn droi i mewn i seren ond efallai y bydd angen llawer o farchnata er mwyn gwneud i hynny ddigwydd.
Ci
Mae ci yn nwydd sydd â chyfran y farchnad isel mewn marchnad sefydlog. Efallai bydd y nwydd yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad neu efallai, gan nad yw’r cynnyrch yn ddrud i’w gynnal, bydd yn cael ei gadw ar bortffolio nwyddau’r cwmni i barhau i ddod a rhywfaint o arian i mewn.

Gallwch ddarllen mwy am Fatrics Boston yma:

Yn y fideo canlynol, gallwch weld y model ar waith ar gyfer cwmni Apple: