Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Mathau o ymchwil
0/1
Dadansoddiad cystadleuwyr
0/1
Tueddiadau
0/1
Modiwl 3: Defnyddio ymchwil i gyfiawnhau marchnata busnes
About Lesson

Tueddiadau

 

Gellir diffinio tueddiad fel ‘cyfeiriad cyffredinol y mae rhywbeth yn datblygu neu’n newid’ neu yn syml, ‘ffasiwn’. Bydd busnesau sy’n gallu addasu i’r tueddiadau allanol yn aml yn fwy llwyddiannus.

Tueddiadau economaidd
Symudiadau yn yr economi dros gyfnod o amser yw ‘tueddiadau economaidd’. Rydym wedi gweld yn barod sut mae hyn yn gallu effeithio ar fusnesau a sut mae cyflwr yr economi yn effeithio ar sut mae busnesau yn marchnata eu nwyddau.
Tueddiadau’r farchnad
Symudiadau newydd yn y farchnad yw ‘tueddiadau’r farchnad’. Mae’r term ‘marchnad’ yn cyfeirio at y farchnad ar gyfer nwydd neu wasanaeth busnes, hynny yw, y bobl sydd o fewn ardal weithgarwch y busnes.
Tueddiadau cymdeithasol
‘Tueddiadau cymdeithasol’ yw newid yn strwythur ac ymddygiad cymdeithas yn gyffredinol. Er enghraifft, mae cymdeithas y DU yn heneiddio a hefyd yn cael llai o blant. Mae hyn yn effeithio ar beth, sut ac i bwy mae busnesau yn marchnata eu nwyddau.