About Lesson
Cynllun marchnata
Bydd cynllun marchnata yn cynnwys dadansoddiad o’r gymysgedd farchnata, y farchnad darged, y pwynt gwerthu unigryw (USP) a phenderfyniadau ynglŷn â sut y dylid segmentu’r farchnad.
Elfennau'r gymysgedd farchnata
Mae’r 7P yn galluogi cwmnïau i edrych ar eu gweithgareddau ac yn darparu fframwaith ar gyfer cynllunio.
Gallwch atgoffa’ch hun o’r 7P fan hyn:
![]() |
Y gymysgedd farchnata |
hyd at
|
|
![]() |
Cymysgedd farchnata estynedig |
Y farchnad darged
Y farchnad darged yw’r grŵp o gwsmeriaid y mae busnesau yn anelu eu nwyddau atynt. Mae angen i fusnes ddeall ei farchnad darged os yw’n mynd i farchnata’n llwyddiannus.
Dilynwch y ddolen i ddarllen mwy:
![]() |
Pennu marchnad darged |
Pwynt gwerthu unigryw
Mae’r pwynt gwerthu unigryw yn nodwedd neu’n rhinwedd sydd gan gynnyrch neu wasanaeth sy’n ei wneud yn wahanol i nwyddau neu wasanaethau tebyg ac sy’n ei wneud yn fwy apelgar i rai cwsmeriaid. Gall fod yn flas, edrychiad, perfformiad, brandio ac yn y blaen.
Munud i feddwl
Edrychwch ar wefan y busnes isod:
Beth yw pwynt gwerthu unigryw y busnes?
Oes pwynt gwerthu unigryw gan frandiau te eraill?
Segmentu
Segmentu yw rhannu’r farchnad yn grwpiau o bobl sydd â nodweddion tebyg:
![]() |
Segmentu’r farchnad |