Cynnwys y Cwrs
Uned 6: Gwneud Penderfyniadau Busnes
Amcanion y modiwl
0/1
Mathau o ymchwil
0/1
Dadansoddiad cystadleuwyr
0/1
Tueddiadau
0/1
Modiwl 3: Defnyddio ymchwil i gyfiawnhau marchnata busnes
About Lesson

Dadansoddiad cystadleuwyr

Ymchwilio a dadansoddi effaith cystadleuwyr ar y busnes
Gall yr hyn mae cystadleuwyr yn ei wneud gael effaith ar fusnesau ac mae busnesau yn dadansoddi’r gystadleuaeth o ran eu cryfderau a’u gwendidau a beth sy’n wahanol amdanynt.
Effaith y nwydd neu’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig
Bydd busnesau yn cadw llygad ar nwyddau neu wasanaethau cystadleuwyr er mwyn gweld beth sy’n gweithio’n dda, beth sydd ddim yn llwyddo ac i weld sut y gallan nhw dargedu cwsmeriaid yn fwy effeithiol.
Strategaethau prisio
Wrth bennu prisiau, gall busnes ddilyn amrywiaeth o strategaethau gan gynnwys strategaeth prisio ar sail cystadleuaeth. Mae’r strategaeth brisio hon yn seilio pris ar bris y gystadleuaeth – gall fod yn uwch, yn is neu’n debyg – gan ddibynnu ar y strategaeth. Er enghraifft, os yw busnes am roi’r argraff bod ei gynhyrchion yn fwy moethus na chynhyrchion y gystadleuaeth, efallai bydd yn pennu pris uwch am ei gynhyrchion.
Lleoliad
Gall lleoliad cystadleuwyr gael effaith negyddol neu gadarnhaol. Ar y naill law, mae bod yn agos at gystadleuwyr yn gallu bod yn beth gwael oherwydd bydd gan gwsmeriaid ddewis ble i fynd. Ar y llaw arall, mae bod yn agos at gystadleuwyr yn gallu denu cwsmeriaid i’r ardal. Er enghraifft, mae siopau yn lleoli eu hunain mewn parciau manwerthu gan fod busnesau tebyg yno sy’n denu cwsmeriaid.
Dilynwch y ddolen i atgoffa’ch hun o gynnwys Uned 2: