About Lesson
Dulliau amddiffyn marchnadoedd
Mae hefyd wrth gwrs risgiau sydd ynghlwm ag arloesi a menter.
Tariffau a tholldaliadau
Tariffau a tholldaliadau yw’r trethi a osodir ar nwyddau sy’n dod i mewn i wlad. Mae hyn yn eu gwneud yn ddrutach i gwsmeriaid eu prynu ac felly yn eu gwneud yn llai cystadleuol o’u cymharu â nwyddau domestig.
Cyfyngiadau arian cyfred
Bydd hyn yn digwydd pan fydd llywodraethau yn ceisio rheoli gwerth eu harian cyfred, er mwyn effeithio ar bris nwyddau y maent yn eu hallforio i wledydd eraill.
Cwotâu
Mae cwotâu yn rhoi terfyn ar faint o nwyddau y gellir eu hallforio i mewn i wlad. Eu bwriad yw rhwystro gormod o nwyddau rhag gorlifo i’r farchnad ddomestig.
Cymorthdaliadau
Taliadau gan lywodraeth yw cymorthdaliadau, er mwyn helpu diwydiannau’r wlad i leihau eu costau cynhyrchu ac yna gallant fod yn fwy cystadleuol mewn marchnadoedd tramor.
Cyfyngiadau cyfreithiol
Mae rheoliadau gwahanol gan wahanol wledydd ynglŷn â nwyddau a gwasanaethau. Er enghraifft, mae angen marc CE ar lawer o nwyddau er mwyn eu gwerthu yn yr UE. Mae marc CE yn dangos bod cynnyrch wedi’i asesu gan y gwneuthurwr ac y bernir ei fod yn bodloni gofynion diogelwch, iechyd a diogelu’r amgylchedd yr UE. Mae’n ofynnol ar gyfer nwyddau a gynhyrchir unrhyw le yn y byd sydd wedyn yn cael eu marchnata yn yr UE.

Gallwch ddysgu mwy am y marc CE fan hyn (Saesneg yn unig).