Modiwl 2: Ymchwilio i’r amgylchedd economaidd rhyngwladol y mae busnes yn gweithredu ynddo
About Lesson

Rhwystrau i fasnach

 

Ceir nifer o rwystrau i fasnach ryngwladol. Rydym wedi trafod cyfyngiadau llywodraethau ond mae ffactorau eraill yn gallu effeithio ar fasnach hefyd.

Cyfraddau cyfnewid ansefydlog
Mae cyfraddau cyfnewid yn gallu creu ansicrwydd wrth fasnachu yn rhyngwladol. Er enghraifft, i gwmni sy’n allforio nwyddau, gall newidiadau yn y gyfradd gyfnewid effeithio ar faint o arian fydd y cwmni yn ei gael am y nwyddau, yn ogystal â newid ym mhris eu nwyddau mewn gwledydd tramor. Os yw’r gyfradd gyfnewid yn ansefydlog, bydd y risgiau hyn yn uwch.
Cyfyngiadau masnach
Mae gan rai llywodraethau gyfyngiadau mewn grym sy’n rhwystro busnesau rhag allforio neu fewnforio i’r gwledydd dan sylw. Enghraifft hanesyddol o hyn yw’r rhwystrau masnach sydd wedi bodoli rhwng UDA a Ciwba ers 1958.
Systemau cyfreithiol a rheoleiddiol
Mae’r gallu i werthu nwyddau mewn marchnad yn cael ei reoli gan gyfreithiau a rheoliadau. Er enghraifft, efallai bydd angen trwydded i allforio rhai nwyddau i wledydd arbennig.

Sancsiynau a gwaharddiadau

Risgiau gweithredu
Ambell waith bydd risg uchel o weithredu mewn rhai gwledydd, efallai oherwydd ansefydlogrwydd cyffredinol yn y wlad, risg terfysgaeth neu ryfel. Mewn rhai gwledydd mae trychinebau naturiol yn risg, er enghraifft, gwledydd sy’n agos at ardaloedd o weithgaredd seismig (daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd) neu ardaloedd sy’n dioddef o stormydd trofannol, sychder neu lifogydd.
Sancsiynau economaidd
Mae sancsiynau yn stopio masnach rhag digwydd rhwng gwledydd. Gellir defnyddio sancsiynau i geisio cosbi gwledydd am eu hymddygiad, e.e. y sancsiynau ar Rwsia oherwydd ei hymosodiad ar Wcráin.

Munud i feddwl

 

Darllenwch yr erthygl ganlynol:

Pam y gwnaeth y DU osod sancsiynau ar wlad Belarws?

Pa nwyddau/gwasanaethau oedd yn cael eu heffeithio gan y sancsiynau?