Modiwl 2: Ymchwilio i’r amgylchedd economaidd rhyngwladol y mae busnes yn gweithredu ynddo
About Lesson

Globaleiddio

 

Petaech yn edrych o ble daw’r nwyddau sydd yn eich ystafell wely, neu’r bwydydd yn eich cegin, fe fyddech yn gweld eu bod yn dod o bedwar ban byd. Mae masnach wedi globaleiddio ac mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu masnachu ar draws y byd. Fel y gwelwyd yn barod, mae nifer o fanteision i fusnesau weithredu’n rhyngwladol.

Rhai o nodweddion globaleiddio yw blociau masnachu, symudedd llafur a chyfalaf rhyngwladol. Hefyd ceir sawl arian cyfred sy’n cael eu defnyddio mewn nifer o wledydd, e.e. yr ewro.

Ceir corfforaethau amlwladol, cysylltiadau busnes rhyngwladol a systemau talu rhyngwladol sy’n fodd i fusnesau weithredu yn haws ar draws y byd a byddwn yn edrych ar rai ohonynt yn y modiwl hwn.

Gallwch ddarllen mwy am globaleiddio yma: