Modiwl 2: Ymchwilio i’r amgylchedd economaidd rhyngwladol y mae busnes yn gweithredu ynddo
About Lesson

Rhesymau dros ddiffynnaeth

 

Y rhesymau dros ddiffynnaeth mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Amddiffyn diwydiannau ifanc
Mae diwydiannau ifanc yn ddiwydiannau sy’n newydd yn y wlad honno. Mae diffynnaeth yn rhoi cyfle iddynt sefydlu eu hunain heb gystadleuaeth. Er enghraifft, petai diwydiant gweithgynhyrchu ceir yn dechrau sefydlu mewn gwlad, byddai diffynnaeth yn rhwystro cwmnïau ceir byd-eang fel Ford rhag cystadlu yn y farchnad.
Amddiffyn busnesau lleol/swyddi
Dyma un o’r prif resymau dros ddiffynnaeth, sef er mwyn diogelu busnesau a swyddi lleol rhag cystadleuaeth annheg gan fusnesau mawr (sydd efallai yn gallu codi prisiau is oherwydd eu maint).
Amddiffyn diwydiannau strategol
Ystyrir rhai diwydiannau yn bwysig i fuddiannau’r wlad, e.e. diwydiannau egni, arfau ac amddiffyn, amaeth ac iechyd. Mae llywodraethau yn ceisio diogelu’r diwydiannau hyn fel nad ydynt yn ddibynnol ar wledydd eraill petai argyfwng byd-eang.
Diogelu rhag dympio nwyddau
Mae dympio yn digwydd pan fydd economïau yn gwerthu nwyddau mewn marchnadoedd tramor am bris sy’n is na’r pris yn y farchnad gartref. Gall hyn gael effaith negyddol ar nwyddau domestig gan nad yw cwmnïau lleol yn gallu gostwng eu pris ddigon i allu cystadlu.
Osgoi cystadleuaeth annheg
Mae hyn yn ffordd o ddiogelu busnesau lleol rhag busnesau sy’n gallu lleihau eu costau cynhyrchu drwy fanteisio ar gostau llafur is mewn gwledydd tramor.
Amddiffyn cyflogaeth
Drwy rwystro cystadleuaeth, mae’n creu amgylchedd mwy ffafriol i fusnesau domestig ffynnu am nad oes ganddynt ormod o gystadleuaeth. Mae’r busnesau hyn yn eu tro yn cyflogi pobl leol a hynny’n arwain at gylchdroi mwy o arian yn yr economi leol, yn hytrach na chael ei dynnu allan o’r economi gan fusnesau o wledydd tramor.

Munud i feddwl

 

Edrychwch ar y graff sy’n dangos pris gwenith ar y farchnad agored mewn doleri.

Gallwch weld effaith dechrau’r rhyfel yn Wcráin ar brisiau gwenith.

Fel canran, tua faint mae’r pris wedi codi o’i bwynt isaf i’w bwynt uchaf?

Beth mae hyn yn ei ddangos am bwysigrwydd diogelu diwydiannau strategol fel amaethyddiaeth?

Gallwch ddarllen mwy am rwystrau i fusnes rhyngwladol trwy ddilyn y ddolen hon.