About Lesson
Rhesymau dros ddefnyddio’r strategaeth ddethol
Mae’r strategaeth a ddewisir yn dibynnu ar nifer o ffactorau.
Cyflymder sefydlu gweithrediadau
Wrth ystyried gweithredu dramor, rhaid ystyried pa mor gyflym mae angen i fusnes wneud hyn. Gall hyn effeithio ar eu penderfyniadau, er enghraifft, os oes cystadleuwyr yn debygol o ddechrau masnachu yn y wlad, efallai y bydd busnes eisiau symud yn gyflym.
Mynediad at wybodaeth ac arbenigedd busnes lleol
Mae’n bosib bod penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddefnyddio adnoddau dynol lleol yn gallu bod o fudd. Er enghraifft, mae deiliaid braint lleol yn debygol o adnabod marchnad eu gwlad.
Rheoli costau
Mae rhai strategaethau yn debygol o fod yn fwy costus nag eraill a bydd rhaid i fusnes fod yn ymwybodol o’r effeithiau ar eu llif arian. Er enghraifft, mae sefydlu neu brynu cwmni mewn gwlad dramor yn ddrud ac yn gallu cymryd amser tra bod cydweithio gyda chwmnïau eraill yn gallu bod yn rhatach.
Rheoli risg
Er bod strategaethau sy’n ymwneud â gweithio gyda busnesau eraill yn gallu bod yn gyflymach ac yn fwy cost effeithiol, dydyn nhw ddim yn ddi-risg. Er enghraifft, mae enw da cwmni yn gallu bod yn ddibynnol ar ansawdd nwydd neu wasanaeth felly mae rhoi’r hawl i fusnesau eraill gynhyrchu nwydd, e.e. trwy gytundebau trwydded, yn rhoi llawer o gyfrifoldeb am ansawdd yn nwylo cwmni arall.