Modiwl 5: Archwilio dulliau strategol a gweithredol o ddatblygu masnach ryngwladol
About Lesson

Ystyriaethau o ran adnoddau

 

Mae’n bwysig ystyried nifer o bethau cyn penderfynu masnachu yn rhyngwladol.

Costau cyfalaf
Mae costau cyfalaf yn ymwneud â chostau sefydlu’r busnes. Er enghraifft, mae prynu neu gaffael busnes yn galw am fewnbwn sylweddol o gyfalaf ond nid yw strategaethau fel trwyddedu neu fasnachfraint mor ddrud i’w sefydlu.
Costau refeniw
Costau refeniw yw’r costau y mae busnes yn eu talu o ddydd i ddydd, e.e. nwyddau crai, rhent a chyflogau gweithwyr. Rhaid sicrhau bod unrhyw strategaeth yn ystyried y costau hyn yn llawn.
Arbenigedd a chyfalaf deallusol, a all fod yn lleol a/neu’n cael ei ddarparu gan y busnes sy’n dod i mewn.
Mae sicrhau eich eiddo deallusol yn bwysig wrth fasnachu dramor gan fod patentau a nodau masnach ond yn cael eu diogelu yn y wlad lle mae’r busnes wedi eu cofrestru. Mae angen i fusnes ymchwilio sut i ddiogelu ei eiddo deallusol dramor.

Gwyliwch y fideo ganlynol sy’n trafod pwysigrwydd eiddo deallusol.

Costau hyfforddi ar gyfer gwaith lleol
Mae hefyd angen ystyried hyfforddi’r gweithlu lleol, yn enwedig os yw’r broses gynhyrchu neu’r nwydd yn newydd i’r wlad. Mae rhai busnesau yn symud gweithwyr allweddol i’w busnesau newydd tramor er mwyn helpu i sefydlu’r busnes ond gall hyn greu drwgdeimlad ymysg y bobl leol.
Strwythur trefniadaethol busnes rhyngwladol
Mae’n rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn â strwythur trefniadaethol busnesau rhyngwladol gan gynnwys sut y byddant yn cael eu rheoli. Gellir crynodi rheolaeth yn y wlad gartref neu gellir datganoli rheolaeth i’r busnesau tramor.

Mantais penderfynu hyn oll yn y rhiant gwmni yw bod y penderfyniadau yn gyson a’r rhiant gwmni yn cadw rheolaeth ond nid yw’r rhiant gwmni mor gyfarwydd â’r ardal leol.

Wrth ddatganoli rheolaeth ceir mwy o wybodaeth a dealltwriaeth leol ac mae’n debygol y bydd hyn yn cymell gweithwyr ond mae’n strategaeth risg uchel, gyda photensial i golli rheolaeth ar y gweithgareddau neu fod strategaethau’r cwmni yn gymysglyd.