Modiwl 5: Archwilio dulliau strategol a gweithredol o ddatblygu masnach ryngwladol
About Lesson

Strategaethau ar gyfer gweithredu’n rhyngwladol

 

Mae nifer o ffyrdd y gall busnesau eu dewis er mwyn gweithredu’n rhyngwladol.

Is-gwmnïau

Mae is-gwmnïau yn gwmnïau sy’n eiddo i’r rhiant gwmni ond maent yn gweithredu mewn ardal wahanol yn ddaearyddol neu yn canolbwyntio ar fath gwahanol o fusnes. Mae dwy ffordd o greu is-gwmni – cael ei greu gan y rhiant gwmni neu brynu busnes arall. Gall busnes sydd am weithredu mewn gwlad dramor sefydlu busnes yn y wlad honno neu brynu busnes lleol. Mae hyn yn gallu lleihau risgiau, er nad yw hi’n wastad mor rhwydd i brynu cwmni dramor.

Mentrau ar y cyd
Dyma pryd mae busnesau yn dod at ei gilydd i gyd-fasnachu. Enghraifft o hyn yw cwmnïau Sony (o Japan) ac Ericsson (o Sweden) a ddaeth at ei gilydd fel Sony Ericsson i gynhyrchu ffonau symudol a nwyddau tebyg. Bu’r fenter yn llwyddiannus ar draws y byd am 10 mlynedd tan i Sony brynu cyfran Ericsson yn 2011. Er hyn roedd yna broblemau ac roedd hi’n anodd cael y cwmni i gydweithio fel uned glòs oherwydd y gwahaniaethau agwedd rhwng y ddau ddiwylliant tuag at bethau fel oriau gweithio a hyd gwyliau.
Partneriaethau

Mae partneriaethau yn debyg iawn i fentrau ar y cyd ond maent fel arfer yn canolbwyntio ar fwy nag un prosiect ac yn benagored o ran amser.

Asiantaethau/Dosbarthwyr
Mae asiantaethau yn gallu rhoi gwybodaeth leol am y marchnadoedd allforio, trefnu swyddfeydd a staff a hyrwyddo nwyddau busnesau, tra bod dosbarthwyr yn prynu nwyddau oddi wrthynt ac wedyn yn eu gwerthu mewn gwlad dramor.

Gallwch ddysgu mwy am asiantaethau a dosbarthwyr yma (Saesneg yn unig):

Defnyddio asiant neu ddosbarthwr wrth allforio

Trwyddedu

Mae hyn yn ymwneud â rhoi’r hawl i fusnes mewn gwlad arall gynhyrchu nwyddau busnes a’i werthu. Mae hyn yn gallu bod yn haws nag allforio’r nwyddau ond mae’n rhoi llawer o gyfrifoldeb ar y cwmni tramor o ran sicrhau ansawdd y cynnyrch.

Masnachfreinio

Gyda masnachfraint mae’r breiniwr yn rhoi hawl i unigolion neu fusnes (y deiliad braint) ddefnyddio ei nwyddau, brandio ac yn y blaen. Mae’r deiliad braint yn talu ffi i’r breiniwr am yr hawl i wneud hyn.

Gallwch ddarllen mwy am fasnachfreinio yma:

Prynu masnachfraint