About Lesson
Ailddylunio cynhyrchion a gwasanaethau i fodloni gofynion a dewisiadau marchnadoedd rhyngwladol
Yn aml iawn, bydd angen addasu cynhyrchion a gwasanaethau er mwyn apelio at chwaeth pobl y wlad. Efallai y bydd angen addasu nwyddau hefyd oherwydd safonau neu ddeddfau’r wlad neu oherwydd bod angen newid nodwedd arbennig y nwydd. Er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig rydyn ni’n gyrru ar ochr chwith yr heol. Fodd bynnag, yn Ffrainc maen nhw’n gyrru ar y dde. Mae ceir sy’n cael eu gwerthu yn Ffrainc yn cael eu newid fel bod y llyw ar yr ochr gywir yn y wlad honno.
Munud i feddwl
Dilynwch y ddwy ddolen at arlwy diodydd McDonald’s mewn dwy wlad wahanol:
Chwiliwch am dair diod debyg a thair diod wahanol.
Pam mae ganddyn nhw ddiodydd tebyg a diodydd gwahanol?