About Lesson
Pwysigrwydd a manteision rheoli ansawdd
Cynhyrchu ac allbwn sero diffyg
Mae gwastraff mewn busnes yn lleihau proffidioldeb cwmni, e.e. er mwyn cynhyrchu cynnyrch mae angen defnyddio nwyddau crai, peiriannau, amser a phobl. Mae cost i’r rhain i gyd felly os yw’r cynnyrch yn ddiffygiol ac yn methu cael ei werthu, bydd yr arian wedi cael ei wastraffu.
Gwelliant parhaus
Mae gwelliant parhaus yn broses barhaus o nodi, dadansoddi a gwneud gwelliannau i systemau, prosesau, cynhyrchion neu wasanaethau. Dyna sut mae busnesau yn ceisio sicrhau eu bod yn gwella effeithlonrwydd drwy’r amser.
Gwella ansawdd allbwn
Bydd systemau cynhyrchu sy’n gwella’n barhaus yn arwain at gynnyrch o ansawdd gwell. Yn ei dro fe ddylai hyn arwain at gwsmeriaid bodlon ac enw da.
Llai o angen arolygu
Yn y gorffennol roedd y pwyslais ar wirio ansawdd, lle’r oedd nwyddau yn cael eu cynhyrchu ac yna roedd proses o wirio bod y nwyddau gorffenedig o ansawdd digonol. Heddiw, mae system rheolaeth lwyr ar ansawdd yn adeiladu ansawdd i mewn i’r holl brosesau fel y dylai fod llawer llai o angen am systemau gwirio ansawdd yn y pen draw.
Wrth gael safonau a phrosesau ansawdd mewn lle, mae llai o angen goruchwylio gweithwyr hefyd.
Ymrwymiad a boddhad cyflenwyr
Mae meithrin perthynas glos â chyflenwyr fel rhan o reoli ansawdd yn arwain at foddhad cyflenwyr gan eu bod yn teimlo’n rhan o system sy’n gweithio.
Bodlonrwydd cwsmeriaid
Os yw nwyddau diffygiol yn cyrraedd y cwsmer fe fyddant yn anfodlon. Efallai byddant yn meddwl ddwywaith cyn prynu nwyddau’r cwmni eto.
Gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb
Nod gwella ansawdd yn aml yw sicrhau effeithlonrwydd, ac yn ei dro, gwella proffidioldeb trwy leihau gwastraff a sicrhau nwyddau o ansawdd uchel sy’n bodloni cwsmeriaid.
Gallwch ddarllen rhagor am reoli ansawdd fan hyn: