Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Safonau ansawdd
0/1
Technegau ac offer rheoli ansawdd
0/1
Pwysigrwydd a manteision rheoli ansawdd
0/1
Modiwl 5: Rheoli ansawdd
About Lesson

Safonau ansawdd

Y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI)
Yn y Deyrnas Unedig, y prif gorff rheoli safonau ansawdd yw’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI). Mae’r BSI yn sefydliad nid-er-elw ac yn cynnig gwasanaethau byd-eang ym meysydd safoni, asesu systemau, ardystio cynnyrch, hyfforddiant a gwasanaethau cynghori.

Mae’r BSI hefyd yn cynhyrchu safonau technegol ar ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau ac mae hefyd yn cyflenwi gwasanaethau ardystio a safonau i fusnesau.

Y BSI sy’n gweinyddu’r system nod barcud. Mae’r nod barcud yn symbol sy’n dangos bod ansawdd cynnyrch wedi cael ei brofi.

Cliciwch ar y ddolen i weld mwy ar wefan BSI:

BSI

Sefydliad Rhyngwladol er Safoni (ISO)
Mae’r ISO yn gorff sy’n pennu safonau ar draws y byd. Mae’n gyfundrefn anllywodraethol sy’n cwmpasu cyrff safonau 162 o wledydd. Y BSI yw’r aelod ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae’r ISO yn pennu safonau ar gyfer gweithgareddau mewn amrywiaeth eang o feysydd. Un o’r teulu o safonau pwysicaf yng nghyd-destun ansawdd yw ISO 9000, sef safonau rheoli ansawdd.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am ISO (Saesneg yn unig):

Gallwch ddarllen rhagor am IS09000 (yn Saesneg) fan hyn:

IS09000

Buddsoddwyr mewn Pobl
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn ymwneud â safonau mewn cyflogaeth. Maent yn gwobrwyo busnesau yn seiliedig ar y systemau sydd ganddynt ar waith i sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf o’r bobl sy’n gweithio iddynt.

 

Gallwch ddilyn y ddolen i’w gwefan i ddysgu mwy:

Buddsoddwyr mewn pobl

Munud i feddwl

 

Dilynwch y ddolen a darllenwch yr erthygl:

Pa wobrau mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi eu hennill?

Beth oedd eu cryfderau yn ôl Buddsoddwyr mewn Pobl?