Datblygu diwylliant ansawdd
Mae nifer o agweddau i ddatblygu diwylliant ansawdd mewn busnes.
Gosod safonau ansawdd
Dilynwch y ddolen i ddarllen canllawiau ISO ar gyfer creu safonau:
Ymrwymiad rheolwyr a staff
Drwy ddatblygu diwylliant ansawdd bydd busnes yn ceisio sicrhau cefnogaeth y bobl sy’n gweithio yno. Bydd rheolwyr yn chwarae rhan allweddol mewn gosod safonau a threfnu sut bydd busnesau yn mynd ati i’w cyrraedd tra bydd gweithwyr yn chwarae rhan flaenllaw wrth roi’r systemau hynny ar waith.
Cylchoedd ansawdd
Grŵp o weithwyr sy’n dod at ei gilydd i drafod unrhyw broblemau ansawdd sy’n codi a thrafod sut i’w datrys a sut i wella’r broses yw cylchoedd ansawdd. Mae cylchoedd ansawdd yn ffordd o gynnwys gweithwyr y cwmni sydd yn hybu eu cymhelliant hefyd.
Gweithio mewn partneriaeth â chyflenwyr a chwsmeriaid
Mae’n hanfodol i fusnesau weithio gyda chyflenwyr oherwydd yn aml bydd ansawdd eu nwyddau nhw yn cael effaith ar ansawdd y nwydd gorffenedig. Gall fod yn fuddiol trafod â chwsmeriaid yn ystod y broses hefyd gan y bydd meithrin ymddiriedaeth cwsmeriaid yn bwysig i sicrhau gwerthiant.
Cyfathrebu tryloyw ac agored
Er mwyn i systemau ansawdd weithio fel y dylent, mae angen sicrhau bod sianelau cyfathrebu yn agored. Mae’n rhaid bod gan weithwyr a rheolwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr y gallu i roi eu barn heb rwystrau. Mae bod yn agored i gael trafodaethau gonest yn gallu bod yn sail i’r broses ansawdd.