Modiwl 5: Archwilio Rôl a Chyfraniad Arloesi a Menter i Lwyddiant Busnes
About Lesson

Manteision sy’n gysylltiedig ag arloesi a menter

 

Mae yna fanteision amlwg sy’n gysylltiedig ag arloesi a menter. Cliciwch ar bob un i gael dysgu mwy:

Gwelliannau i gynnyrch, prosesau, gwasanaethau a phrofiad cwsmeriaid

Mae gwelliannau mewn cynnyrch, prosesau a gwasanaethau’n arwain at brofiad gwell i’r cwsmer. Er enghraifft, roedd y ffonau symudol cyntaf i’w cynhyrchu’n fawr, yn ddrud ac ond yn gallu gwneud galwadau ffôn. Erbyn heddiw mae eich ffôn yn fach ac ysgafn ac yn gyfuniad o ffôn, teledu, cyfrifiadur, dyfais chwarae cerddoriaeth a chamera mewn un!

Twf busnes

Wrth i fusnesau ddatblygu nwyddau a gwasanaethau newydd, gall hwn arwain at dwf yn y cwmni.

Datblygu marchnadoedd newydd ac arbenigol

Mae busnesau’n gallu datblygu ei nwyddau neu eu marchnata i apelio at farchnadoedd gwahanol e.e. cwmni bwydydd brecwast yn cynhyrchu bariau egni. Neu gallent fynd ar ôl marchnadoedd arbenigol.

Cynnig pwyntiau gwerthu unigryw

Mae pwyntiau gwerthu unigryw yn gallu bod yn bwysig iawn i fusnesau oherwydd taw dyma beth sy’n eu gwneud yn wahanol i’w cystadleuwyr. I nifer o fusnesau yng Nghymru, y pwynt gwerthu unigryw yw eu bod yn defnyddio’r Gymraeg.

Gwell adnabyddiaeth ac enw da

Wrth i fusnes ddatblygu ei nwyddau a’i wasanaethau, y gobaith yw y bydd yn dod yn fwy adnabyddus ac y bydd yn datblygu enw da. Gall hwn hefyd ddeillio o gynhyrchu’r nwydd neu wasanaeth cyntaf ar y farchnad e.e. iPhone.

Gweithio’n fwy craff

Mae datblygiadau o ran prosesau busnes a’r ffordd o weithio’n gallu gwneud i fusnes weithio’n fwy craff. Hynny yw ei fod yn gallu gwella’r ffordd y mae’n gweithredu fel ei fod yn fwy effeithlon.