About Lesson
Risgiau sy’n gysylltiedig ag arloesi a Menter
Mae hefyd wrth gwrs risgiau sydd ynghlwm ag arloesi a menter.
Methu â bodloni gofynion gweithrediadol a masnachol
Wrth i fusnesau ddatblygu fe fydd gofynion gweithrediadol a masnachol y bydd angen iddynt gydymffurfio â nhw. Gall methu â chydymffurfio arwain at broblemau.
Methu sicrhau adenillon ar fuddsoddiad
Mewn rhai busnesau gall gymryd blynyddoedd i wneud yr ymchwil angenrheidiol i ddatblygu neu lansio nwydd. Yn y cyfamser, gallai’r cystadleuwyr ddod i mewn i’r farchnad neu fe allai chwaeth neu anghenion pobl newid.
Gwyliwch Eryl Williams, Rheolwr-Gyfarwyddwr cwmni Asbri Cyf yn son am risgiau llif arian:
Problemau diwylliannol (gwrthsefyll newid, systemau a phrosesau anghefnogol, cefnogaeth annigonol gan arweinwyr a rheolwyr)
Mae cyflwyno newidiadau mewn busnes yn gallu bod yn anodd. Gall pobl wrthwynebu newidiadau yn eu ffordd o weithio neu newidiadau eraill.